Pwllfanogl, Llanfairpwll

Pwllfanogl, Llanfairpwll

Roedd yr ardal dawel o amgylch aber yr afon Braint unwaith yn brysur gyda gweithgarwch diwydiannol. Yn fwy diweddar, roedd y peintiwr enwog Syr Kyffin Williams (1918-2006) yn byw yma.

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos Pwllfanogl a Llanfair Pwllgwyngyll ym 1947. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Aerial view of Pwllfanogl in 1947
Pwllfanogl or awyr ym 1947, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Pwllfanogl oedd terfynfa fferi a groesai’r Fenai. Roedd nwyddau yn dal i ddod ar gychod i’r harbwr yn yr 20fed ganrif. Yn y 18fed ganrif, roedd iard adeiladu cychod ym Mhwllfanogl. Yn 1833 drylliwyd cwch hwylio bychan, o'r enw Jane and Ann, ger Biwmares. Collwyd y tri aelod o’r criw. Adroddwyd bod y llong yn eiddo i “rai pobl dlawd ym Mhwllfanogl”.

Mae'n debyg bod y bont dros yr afon yn dyddio o’r 18fed ganrif, pan newidiwyd cwrs yr afon er mwyn creu pwll melin yn uwch i fyny’r afon. Mae'r felin ŷd yn awr yn dŷ (i'r de-orllewin o'r bont).

O 1876 ymlaen, daeth cychod ȃ llechi at y Britannia Slate Works ym Mhwllfanogl o chwareli ar y tir mawr gyferbyn. Cynhyrchai’r ffatri lechi ysgrifennu a’u hallforio i ysgolion ledled y byd. Pan arwerthiwyd y rhan fwyaf o'r tir ym Mhwllfanogl ym 1909, roedd yn cynnwys y gwaith llechi, melin ŷd, 12 o dai, stablau, glanfeydd a phyllau llifio.

Agorodd "ffatri cig moch" ym Mhwllfanogl, o bosibl yn 1913. Pan arwerthiwyd y ffatri yn 1916, roedd yn cynnwys berwydd stêm, gwasg lard, peiriant briwo, peiriant mathru esgyrn a rheiliau haearn ar gyfer symud cig.

I’r gorllewin o’r aber fe welwch fwthyn o’r enw Min-y-Môr, y Boat Inn yn flaenorol. Dyma gartref olaf Syr Kyffin Williams. Yn enedigol o Langefni, fe astudiodd yn y Slade School of Fine Art yn Llundain. Ymddeolodd i Bwllfanogl ym 1974, y flwyddyn pryd y cafodd ei ethol i'r Academi Frenhinol. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ddarluniau ysgogol o dirweddau Cymreig.

Cod post: LL61 6PD    Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button