Craig yr Undeb, Brynrefail
Craig wrth ymyl yr hen ffordd ar lan Llyn Padarn yw Craig yr Undeb. Mae'r enw yn cyfeirio at arwyddocâd y lleoliad hwn fel man cyfarfod cyhoeddus i chwarelwyr ac eraill yn oes Fictoria.
Roedd perchnogion chwareli, fel diwydianwyr eraill, yn gyndyn i ganiatáu i'w gweithwyr ffurfio neu ymuno ag undebau llafur. Nid oedd chwarelwyr yn cael cynnal cyfarfodydd undeb na chodi arian undeb mewn chwareli ond gallent wneud hynny mewn mannau eraill, gan gynnwys mewn capeli. Torrwyd tir newydd ym 1874 gyda ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Credir i'r undeb gael ei sefydlu mewn cyfarfod yng Nghaernarfon ond ar yr un bore daeth tyrfa ynghyd yma i ddathlu, yn ôl y wasg ar y pryd.
Yn ystod streic gan chwarelwyr Dinorwig ym 1885-1886, cynhaliwyd cyfarfodydd yma yng Nghraig yr Undeb. Amcangyfrifwyd bod 6,000 o bobl yn bresennol mewn un cyfarfod, yn Chwefror 1886.
Nid anghydfodau lleol oedd yr unig rai a gafodd eu trafod yma. Ym 1896 a 1897 galwyd cyfarfodydd mawr yng Nghraig yr Undeb i drafod tactegau'r Arglwydd Penrhyn yn chwarel lechi'r Penrhyn, Bethesda.
Dichon ei bod yn arwyddocaol fod Arglwydd Niwbwrch, yr hwn oedd yn berchen y tir yma, yn Rhyddfrydwr. Roedd hefyd yn berchen ar chwarel Glynrhonwy, Llanberis. Roedd chwareli Dinorwig a Phenrhyn yn eiddo i Geidwadwyr pybyr!
Roedd y gymuned weithiau'n trafod yng Nghraig yr Undeb bynciau nad oeddent yn gysylltiedig â chwarela. Ar brynhawn gwlyb yn Hydref 1876, er enghraifft, ymgasglodd gweithwyr o chwareli Dinorwig a Glynrhonwy yma i drafod a chondemnio dulliau'r Ymerodraeth Otomanaidd o chwalu gwrthryfel ym Mwlgaria. Anerchwyd y dyrfa gan weinidogion yr efengyl, athrawon ysgol a swyddog undeb.
Y ffordd heibio gwaelod Craig yr Undeb oedd y brif ffordd rhwng Llanberis a Chaernarfon hyd ddechrau'r 1980au pan adeiladwyd yr A4086 i gyd-fynd ag adeiladu Gorsaf Ynni Dinorwig. Heddiw, mae'r ffordd yn rhan o lwybr beicio a cherdded Lôn Las Peris.