Hen orsaf drenau Llanberis

sign-out

Hen orsaf drenau Llanberis

Photo of old Llanberis station

Ar un adeg, yn rhan wreiddiol yr adeilad hwn oedd prif orsaf reilffordd Llanberis. Mae'r adeilad wedi'i ymestyn yn fawr at ei ddiben presennol, sef fel siop.

Mae'r awyrlun, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos yr orsaf ym 1946, gyda thir agored ar bob ochr. Y siâp crwn ar ochr dde safle'r rheilffordd yw pwll y trofwrdd, lle cafodd locomotifau stêm eu troi ar ddarn o drac a fyddai’n cylchdroi er mwyn iddynt wynebu tua’r blaen ar gyfer y daith yn ôl.

Llanberis oedd terfyn cangen y llinell 13 cilomedr o Gaernarfon, a agorwyd ar 1 Gorffennaf 1869 gan y London & North Western Railway. Roedd y llinell yn bennaf ar gyfer symud llechi a mwynau eraill a gloddiwyd yn lleol i gyrchfannau ar rwydwaith rheilffordd Prydain. Parhaodd Rheilffordd Padarn, ar lan arall Llyn Padarn, i gludo llechi ond yn bennaf i'w dosbarthu gan longau o'r Felinheli. Ym 1873, ceisiodd y LNWR ehangu'r rheilffordd i derfynfa'r chwarel yn Gilfach Ddu, ond gwrthwynebodd y tirfeddiannwr lleol.

Aerial photo of Llanberis railway station in 1946Roedd safle’r orsaf yn cynnwys warws, lle roedd nwyddau'n cael eu storio ar ôl cael eu dadlwytho o wagenni rheilffordd. Ym 1880 carcharwyd bardd o’r enw Robert Hughes – sef ‘Alarch Gwyrfai’ – am fis am ddwyn potel o wisgi o’r warws, er bod cwnstabl heddlu wedi dweud wrth yr ynadon ei fod yn un o ddynion doethaf y gymuned!

Yma hefyd y dadlwythwyd locomotifau stêm a adeiladwyd yn y Swistir ar gyfer Rheilffordd yr Wyddfa. Cawsant eu cludo oddi yma i orsaf y rheilffordd fynydd ar draciau cul dros dro ar hyd ymyl y ffordd. Denodd agoriad y rheilffordd fynydd ym 1896 fwy o ymwelwyr i Lanberis, gyda llawer ohonynt yn cyrraedd ar drenau’r LNWR.

Daeth trafnidiaeth arferol i deithwyr i ben yma ym 1930, yn wyneb cystadleuaeth gan y ffyrdd, ond defnyddiwyd yr orsaf o bryd i'w gilydd gan drenau i dwristiaid yn y 1950au. Gadawodd y trên nwyddau olaf Lanberis ar 3 Medi 1964. Mae ffordd osgoi Llanberis bellach yn dilyn trywydd y rheilffordd.

Llanberis Art & Craft, sy'n gwerthu nwyddau a rhoddion, sydd bellach wedi ymgartrefu yn adeilad yr orsaf. Ceir hen luniau o'r orsaf ar y wal y tu ôl i'r cownter, ac fe welir un ohonynt yma drwy garedigrwydd perchenogion y siop.

Cod post: LL55 4TA    Map

LON LAS PERIS Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button