Olion bryngaer a mawndir ger Marros
Olion bryngaer a mawndir ger Marros
Ger y fan hon mae Llwybr yr Arfordir yn ein tywys ar hyd cefnen. Ar ben y gefnen mae bryngaer o’r Oes Haearn; enw diweddar arni yw “Top Castle”.
Roedd ceyrydd pentir yn gyffredin ar hyd arfordir gorllewin Cymru yn y cyfnod cynhanesyddol. Fe’u codwyd mewn mannau lle’r oedd y rhan fwyaf o’r tirwedd cyfagos yn serth; o ganlyniad roedd yn anodd ymosod arnynt ac yn hwylus i’w hamddiffyn. Yn ystod yr Oes Haearn (c.800 CC - c.100 OC) roedd dwy fryngaer ar y darn hwn o’r arfordir, un ohonynt oedd Gilman Point ger Pentywyn.
Roedd y gaer ger Marros ryw 100m uwch lefel y môr. Mae olion clawdd pridd tua 2.5m o ran uchder i’w gweld o’r tu allan i’r gaer. Mae’r awyrluniau a ddangosir yma, gyda chaniatâd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, yn dangos olion hirgrwn amlwg ar y copa.
Mae olion mawndiroedd dan wyneb Traeth Marros. Ffurfiwyd y mawndiroedd pan oedd Bae Caerfyrddin yn gorsdir dan fforestydd o goed derw a choed gwern. Mae olion rhai o’r planhigion hyn wedi’u carbon-ddyddio i c.3000CC.
Pobloedd Neolithig oedd yn byw yn yr ardal ar y pryd. Mae beddrodau yn cynnwys siambrau claddu o gerrig yn dystiolaeth o’u bodolaeth. Mae olion diweddarach, o’r Oes Efydd, yn cynnwys olion defodau claddu megis tomenni a charneddau cylchog.
Ar y llethrau sy’n arwain at draeth Marros ceir olion ffiniau caeau canoloesol. Dinistriwyd olion caeau cyfnod cynt, olion yn perthyn i’r Oes Efydd o bosibl, yn y1980au.
Ynglyn â’r enw lle:
Mae pentref Marros ar rostir agored Mynydd Marros. Yr elfennau posibl yn Marros yw march a rhos gan goffáu'r ceffylau gwyllt a borai gynt ar y mynydd.
Gyda diolch i Alice Pyper, o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, ac i'r Athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru