Cofeb i’r hwyliwr David Sinnett-Jones, Aberaeron

aberaeron_david_and_gillian_sinnett_jones

Mae llechen yn y wal ger y fynedfa i’r harbwr i goffáu David Sinnett-Jones a hwyliodd o amgylch y byd ar ei ben ei hun er iddo golli llygad ac ysgyfaint. Yn y ffotograff (ar y dde) gan Dr Hugh Herbert mae llun ohono ef a’i wraig Gillian.

Ganed David yn 1930 a’i rieni yn gantorion proffesiynol. Bu’n gwasanaethu yn y Llynges Fasnach a’r fyddin cyn mynd yn drydanwr llwyfan. Am ddeng mlynedd bu’n gyrru ceir rasio ond daeth ei yrfa i ben pan gollodd ei olwg mewn un llygad yn dilyn damwain yn 1968.

Bu’n ffermwr llaeth yn Llangeitho, Ceredigion. Gwerthodd y fferm wedi derbyn newyddion ei fod yn dioddef o gancr. Roedd y driniaeth yn cynnwys codi ysgyfaint a rhan o wal y galon. Penderfynodd ymweld â’i ferch yn Ne Affrica, gan dybio na fyddai ef yn byw am hir.  Nid hedfan yno a wnaeth David ond hwylio mewn cwch a gynlluniwyd ac a adeiladwyd ganddo ef ei hun!

Trechwyd y cancr, a rhwng 1985 a 1988 hwyliodd o amgylch y byd mewn cwch arall o’i wneuthuriad ei hun ac ar ei ben ei hun. Enw’r cwch hwn oedd Zane Spray. Mae yn y llun ar y chwith (gan Hugh Herbert). David sy’n wynebu’r camera. Seiliwyd y cwch ar gynllun gan Joshua Slocum, iotmon o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.aberaeron_david_sinnett_jones

Suddodd y cwch yn 1997 ac aeth David ati i adeiladu cwch hwylio newydd yn seiliedig, unwaith eto, ar gynllun gan Slocum. Fe’i defnyddiodd (gyda chymorth cynorthwyydd) i olrhain mordaith a wnaed gan Slocum o Paranaguá, Brazil, i Washington DC, UDA -  taith o ryw 9,000km (5,500 milltir).

Yn 1990 hwyliodd David a’i gyfaill Peter Lloyd Harvey o gwmpas Cymru! Cychwynnwyd a chwblhawyd y daith yn Aberaeron gan defnyddio camlesi er mwyn teithio rhwng Dyfrdwy a Hafren.

Roedd yn awdur tair cyfrol hunangofiannol. Ac yntau’n 74 oed bu farw yn ei gartref yn Aberaeron.

Am yr enw lle:

Ystyr Aberaeron yw ‘ceg (afon) Aeron’. Ystyr Aeron yw ‘duwies rhyfel’ ac mae’n cynnwys yr elfen aer ‘rhyfel’ a’r dodiad –on sy’n cynrychioli’r elfen ddwyfol neu chwedlonol sy’n digwydd yn aml mewn enwau afonydd.

Gyda diolch i Helen Herbert, o Gymdeithas Aberaeron, ac i'r athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Cod post: SA46 0BT    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button