Hen ffatri llenwi bomiau, Pen-bre

button-theme-womenHen ffatri llenwi bomiau, Pen-bre

Yn 1915 agorwyd ffatri llenwi ffrwydron ar dir sydd erbyn hyn yn cynnwys rhan ddeheuol Parc Gwledig Pen-bre. Roedd y ffatri i’r gorllewin o gornel Llwybr yr Arfordir yn y lle hwn.

Erbyn 1917 roedd gweithlu o dros 1,000 yn National Filling Factory no.18. Roeddent yn llenwi casys metal y pelenni tân, y torpidos a’r ffrwydron. Ym mis Mawrth 1917 merched oedd 71% o’r gweithlu. Teithiai’r mwyafrif ar y trên o Abertawe, Caerfyrddin a threfi eraill gan ddisgyn yn Lando halt a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer y gweithwyr ar y safle hon a’r ffatri ddeinameit gyferbyn.

Roedd darnau a defnyddiau crai yn ogystal yn cael eu cludo i’r ddwy ffatri ar y trên. Byddai trenau llydan yn cyrraedd y safle ar hyd cledrau cyswllt prif rhwydwaith y rheilffordd. Byddai defnyddiau a darnau a oedd wedi eu cwblhau yn cael eu cludo o amgylch y safle ar drenau bychain.

Roedd y ffatri yn ei anterth yn pacio dros 200 tunnell o ffrwydron grymus bob wythnos i gasys pelenni tân. Mewn llai na dwy flynedd anfonwyd dros 1,140,000 o belenni tân o Ben-bre i Ffrynt y Gorllewin ac i’r Dwyrain Canol.

Ym mis Mai 1917, cryn dipyn o amser cyn diwedd y rhyfel, daeth y gwaith o lenwi pelenni tân i ben a dechreuodd y gweithlu ddatgymalu ffrwydron diffygiol er mwyn achub y darnau. Parhaodd hyn am gryn gyfnod wedi’r Cadoediad. Roedd y broses yn golygu twymo’r pelenni tân er mwyn toddi’r ffrwydron a’u rhyddhau.

Roedd y gwaith yn beryglus ac oherwydd deddfau sensoriaeth cyfnod y rhyfel ni châi damweiniau sylw cyhoeddus. Mae cofnodion cwest, sut bynnag, yn datgelu i dair gwraig gael eu lladd pan ffrwydrodd pelen dân 18 pwys (8.1kg) ar 18 Tachwedd 1918, wythnos wedi diwedd y rhyfel.

Ddiwedd 1919 collodd llawer o’r gweithlu eu swyddi. Gwnaed defnydd o’r safle drachefn yn y 1930au gan y Ffatri Ordnans Frenhinol.

Am yr enw lle:

Ystyr Pen-bre yw ‘pen y bryn’ ac mae’n cynnwys yr elfennau pen ‘brig, copa’ a bre ‘bryn, mynydd’.

Diolch i Alice Pyper, o Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, a’r Athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Ceir rhagor o wybodaeth am ffatri ffrwydron Pen-bre ar wefan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed

Gwefan Parc Gwledig Pen-bre

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button