Warws y ‘Royal Welsh’, Y Drenewydd

PWMP logoWarws y ‘Royal Welsh’, Y Drenewydd

Ar un adeg roedd yr adeilad hwn yn bencadlys cwmni tecstilau Pryce Jones, y busnes cyntaf yn y byd i werthu nwyddau wedi’u harchebu drwy'r post. Lladdwyd sawl gweithiwr ac un cyfarwyddwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos yr adeilad (i’r chwith o’r canol) ym 1932. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Roedd Pryce Jones yn wneuthurwr gwlanen. Fe wnaeth dyfodiad y rheilffordd yn y Drenewydd ei alluogi i anfon ei gynhyrchion ar y trên er mwyn eu cludo'n gyflym. O 1859 gwahoddodd gwsmeriaid i archebu'n uniongyrchol gan y gwneuthurwr i arbed arian. Ym 1866 derbyniodd “archeb helaeth” i'w hanfon ar unwaith at y Frenhines Victoria yng Nghastell Windsor. Archebodd hi fwy o bethau ym mis Rhagfyr 1875 i'w dosbarthu i Osborne House, Ynys Wyth. Archebodd byddin Prwsia niferoedd helaeth o sachau cysgu arloesol y cwmni.

Aerial view of Royal Welsh Warehouse in 1932
Llun o'r awyr 1932, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Adeiladwyd rhan gyntaf Warws y ‘Royal Welsh’ ym 1879. Ychwanegwyd estyniadau ym 1887 a 1904. Roedd cymaint o archebion post yn cael eu derbyn fel bod gan y warws ei gangen swyddfa bost ei hun hyd yn oed!

Wrth i'w gyfoeth gynyddu, symudodd Pryce Jones i blasty o'r enw Dolerw.

Bu farw o leiaf bedwar o gyn-weithwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf - gweler eu manylion isod. Yn ystod glaniadau anlwcus Gallipoli yn Nhwrci, lladdwyd Syr William Lennox Napier, yn 47 oed. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Mri. Pryce Jones Cyf, Warws y ‘Royal Welsh’, am flynyddoedd lawer. Bu'n Is-Gyrnol gyda'r 7fed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, cyn ymddeol o'r fyddin ym 1912. Ymunodd â Chyffinwyr De Cymru fel Uwch-gapten pan ddechreuodd y rhyfel. Fe'i claddwyd ym Mynwent Ambiwlans Maes y 7fed Ffiwsilwyr yn Gallipoli.

Bu farw Rex Pryce-Jones o Droedfilwyr Canada ar ôl cael ei daro gan siel yn 1916 yn Ffrainc. Ymfudodd i Ganada i gynnal cangen o fusnes Pryce Jones cyn y rhyfel.

Heddiw mae amryw fanwerthwyr yn masnachu yn Warws y ‘Royal Welsh’. Mae'r llawr gwaelod yn gartref i Liberty Furnishings, sy'n parhau â'r cysylltiad â thecstilau. 

Cod post: SY16 1BH    Map

Gwefan Liberty Furnishings

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

 

Gweithwyr Warws y ‘Royal Welsh’ a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Jarman, John Henry, Sarsiant 15087. Bu farw ar 25/08/1918 yn 26 oed. Gwarchodlu’r Grenadier. Dyfarnwyd Medal Ymddygiad Nodedig iddo. Cofeb Vis-en-Artois. Mab John ac Annie Jarman o 3, Stone Street. Gweithiodd fel teiliwr yn Warws y ‘Royal Welsh’.

Mumford, George Henry, Sarsiant 290312. Bu farw 26/03/1917. Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Fe’i claddwyd ym Mynwent Rhyfel Gaza. Mab George a Mary Munford, o Sheaf Street; gŵr Mary Anne Mumford. Roedd yn glerc yn Warws y ‘Royal Welsh’ yn y Drenewydd.

Potts, Henry Lewis, dyn reiffl 860871. Bu farw 15/11/1918. Catrawd Llundain. Fe’i claddwyd ym Mynwent Gymunedol St Andrei. Mab Lewis a Susan Davies, o 30, Ffordd y Gamlas. Gweithiodd yn Warws y ‘Royal Welsh’, Y Drenewydd.

Reynolds, Harold, Milwr cyffredin 822. Bu farw o salwch 22/04/1915. Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Fe’i claddwyd ym Mynwent y Drenewydd a Llanllwchaearn. Mab i Mr Richard G Reynolds a Martha Reynolds o Stryd y Parc. Gweithiodd fel clerc yn Warws y ‘Royal Welsh’.

 

I barhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua'r gorllewin ar hyd Ffordd Croesawdy. Trowch i'r dde heibio'r maes parcio. Dilynwch y ffordd heibio'r siopau a'r tai. Trowch i'r chwith yn Ffordd Newydd i ddod at y fynwent
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button