Hen Gapel Bethesda, Bethesda

Hen Gapel Bethesda, Bethesda

bethesda_capel_bethesda

Y capel Annibynwyr hwn sy’n gyfrifol am enw tref Bethesda. Codwyd Capel Bethesda ym 1820 yn ôl yr hanesydd lleol Hugh Derfel Hughes a oedd yn ysgrifennu ym 1866. Bythynnod bach, gan gynnwys tyddynnod, oedd yr adeiladau eraill o’i amgylch. Roedd y capel yn dominyddu’r dirwedd a chyn hir, roedd pobl yn dechrau galw’r pentref yn 'Bethesda'.

Mae llawer o bentrefi yng Nghymru wedi’u henwi ar ôl un o’u capeli, fel Bethel, Carmel, Horeb, Penuel a Libanus. Mae’r rhan fwyaf wedi aros yn fach, ond tyfodd Bethesda yn dref wrth i chwarel y Penrhyn gerllaw ddatblygu’n un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd.

Wrth i’r boblogaeth dyfu, roedd angen mwy o le yn y capel a chafodd ei ehangu ym 1840. Mae’r llun ar y dde (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd) yn dangos y capel yn fuan ar ôl adeiladu ei ffasâd mawreddog ddechrau’r 1870au. Sylwer bod y capel yn gawraidd wrth ochr y bwthyn gerllaw.

bethesda_capel_bethesda_postcardChwarelwyr oedd llawer o’r gynulleidfa, a theimlodd y capel effeithiau’r streic fawr yn chwarel y Penrhyn rhwng 1900 a 1903. Yn Ionawr 1903, daeth un o’r chwarelwyr, o’r enw Roberts, a oedd wedi torri’r streic a dychwelyd i’w waith yn ystod yr wythnos honno, i’r oedfa nos Sul. Wrth iddo gyrraedd, cafodd ei wawdio gan dorf o bobl y tu allan i’r capel, ac fe honnwyd iddo gael ei daro ar ei ben. Roedd angen i’r diacon ddwyn perswâd ar rai o’r gynulleidfa i beidio â cherdded allan i brotestio yn erbyn Roberts. Cafodd Roberts ei hebrwng adref o’r capel gan ddau heddwas, “gyda thorf fawr yn eu dilyn am ychydig gan hwtian a hisian”.

Caewyd y capel yn yr 1980au. Ddiwedd y 1990au, adnewyddodd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yr adeilad gan ailwampio’r tu mewn i ddarparu fflatiau preswyl. Rhoddwyd yr enw Arafa Don ar yr adeilad, sef teitl y gân adnabyddus gan y cyfansoddwr Richard Samuel Hughes, organydd y capel ar un adeg, a oedd yn byw gerllaw.

Diolch i'r Athro Hywel Wyn-Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Hazel Pierce, John Llywelyn Williams, Gwasanaeth Archifau Gwynedd am y llun, a Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad

Cod post: LL57 3AR    Map

Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button