Cofeb Tom Pryce, Rhuthun

Cofeb Tom Pryce, Rhuthun

Mae'r murlun yma yn gofeb i Thomas Maldwyn Pryce, yr unig Gymro i ennill ras Fformiwla 1. Bu farw mewn damwain rasio yn Ne Affrica ym 1977.

Mae cefndir gwledig y murlun yn cyfeirio at ei fagwraeth yn Nantglyn, i'r gorllewin o Rhuthun. Roedd ei dad Jack yn heddwas a'i fam Gwyneth yn nyrs. Roedd hi a gweddw Tom, Nella, ymhlith y gwesteion pan ddadorchuddiwyd y gofeb yn 2009 (roedd Jack wedi marw ddwy flynedd ynghynt).


Gwyliwch fuddugoliaeth Tom Pryce ym 1975, gan British Movietone

Roedd Tom wedi cychwyn astudio amaethyddiaeth pan enillodd gystadleuaeth i yrwyr ifanc. Gyrrodd yn Fformiwla 3 a Fformiwla 2 cyn ei ymddangosiad F1 cyntaf, yng Ngwlad Belg ym 1974. Gyrrai Ford i dîm Shadow pan enillodd “Ras y Pencampwyr” F1 yn Brands Hatch ym 1975, buddugoliaeth a ddaeth â Tom i’r amlwg nodi fel gyrrwr a ymddangosai yn dyngedfennol. i ddod yn un o brif gyflawnwyr F1.

Gorffenodd ar y podiwm (yn y trydydd safle) yn Awstria y flwyddyn honno ac ym Mrasil ym 1976. Er i’w enwogrwydd gynyddu, daliai i fod yn ddyn tawel a'i reddf oedd aros allan o'r sbotolau cyhoeddus.

Yn ystod Grand Prix De Affrica yn Kyalami ym 1977, ni lwyddodd Tom i osgoi gwrthdaro â marsial trac rasio ifanc a oedd yn croesi'r trac i helpu i ddiffodd tân injan car. Fe darodd diffoddwr tân y marsial Tom ar ei ben. Lladdwyd y ddau ddyn. Roedd Tom yn 27 oed.

Cafodd y gofeb yn Rhuthun ei chreu gan y cerflunydd lleol Neil Dalrymple yn dilyn ymgyrch codi arian a gefnogwyd yn weithredol gan ffigurau blaenllaw yn y diwydiant moduron a chwaraeon moduro. Yn eu plith roedd cadeirydd Aston Martin, David Richards, sy'n hanu o Ddyffryn Clwyd ac a fu unwaith yn cyd-yrru gyda Tom mewn rali.

Cod post: LL15 1HY    Map