Porth Ysgaden, ger Tudweiliog

Porth Ysgaden, ger Tudweiliog

porth_ysgaden_ship_and_cart

Mae’r cilfachau o bobtu’r pentir hwn wedi bod yn harbyrau defnyddiol ar gyfer cenedlaethau dirifedi.

Ymhlith y gwrthrychau cynhanesyddol a ddaethpwyd o hyd iddynt yn y cyffiniau mae hanner pen bwyell Neolithig, o Benmaenmawr, a chleddyf o'r Oes Efydd. Credir bod palstave, sy’n fath o fwyell, a ddarganfuwyd ar y traeth ym Mhorth Ysglaig, i’r dwyrain o Borth Ysgaden, yn dyddio o tua 1100 CC (sef diwedd yr Oes Efydd).

Yn ystod y canrifoedd mwy diweddar, roedd Porth Ysgaden yn borth hanfodol i drigolion yr ardal anghysbell hon. Fe ddaeth cychod a llongau bach â haearn, siwgr, te, halen, dillad, tybaco, a glo, ymhlith nwyddau eraill, i’r ardal. Yn ogystal â hynny, aethant â chynnyrch lleol, gan gynnwys penwaig hallt oddi yno. Enw Cymraeg arall ar benwaig yw Ysgadan wrth gwrs.

Ymddengys bod y drol a welir yn y llun o Borth Ysgaden yn 1886 (trwy garedigrwydd gwefan hanes lleol Rhiw.com) yn cario calchfaen, a losgwyd â glo ger y traeth. Gallwch weld yr odyn galch, sydd mewn cyflwr da, ym mhen gogleddol y maes parcio. Adeiladwyd yr odyn i mewn i’r tir ar ongl, er mwyn rhoi’r deunydd crai i mewn o’r top, a chael y calch – a ddefnyddiwyd  yn wrtaith ar gaeau – allan o’r gwaelod.

Old photo of steamer and cottage at Porth YsgadenYn y 18fed ganrif roedd swyddog tollau yn byw yn y bwthyn y gwelir ei dalcen ar ar ben yr allt gyferbyn â’r maes parcio. Credir bod y bwthyn, ar un adeg, yn oleudy. Pan nad oedd yr adeilad yn gartref i’r swyddog tollau, mynnai’r tirfeddiannwr bod y tenantiaid yn cadw’r ffenestri’n lân bob amser. Mae’n bosib y byddai hyn wedi bod yn gymorth wrth smyglo, a bod mab y sgweier yn rhan o’r cynllwyn!

Y rhai olaf i fyw yn y tŷ oedd y brodyr John a Hugh Daniel, a fu’n fasnachwyr glo tan 1935. Symudodd y brodyr ar ôl i’w chwaer, Elinor, syrthio i’w marwolaeth i lawr y clogwyn cyfagos. Mae'r bwthyn i'w weld, y tu hwnt i'r stemar fach, yn y llun isaf (hefyd trwy garedigrwydd Rhiw.com). 

Ym mis Chwefror 1900 chwythwyd llong, a oedd yn hwylio o Ddulyn i Gaernarfon, i mewn i’r pentir ym Mhorth Ysgaden. Bu tri aelod o’r criw yn ymdrechu i gyrraedd y tir am saith awr. Yn y diwedd, fe’u cludwyd yn ddiogel ar draws y creigiau gan Evan Williams o Borth Gwylan, a gafodd ganmoliaeth am ei ddewrder a’i ymdrech. Bu hyn yn gymorth i adfer ei enw da yn dilyn cael dirwy am gadw ci heb drwydded bedair blynedd ynghynt!

Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Map

Mwy o hanes Porth Ysgaden – gwefan Rhiw.com

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button