Cofeb Syr Llewelyn Turner

slate-plaque

Cofeb Syr Llewelyn Turner, Caernarfon

caernarfon_llewelyn_turner

Dyn ei gyfnod oedd Syr Llewelyn Turner, a’i gyfnod oedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Fe'i coffeir gan blac ar wal yr Institiwt, adeilad yr ymwelai ag ef yn aml fel cynghorydd tref a maer. Daw'r llun ohono ar y dde o'i bortread yn yr Institiwt.

Ef oedd yr olaf o 11 o blant William a Jane Turner a oedd yn byw yn Parkia, Ffordd Bangor. Roedd ei dad yn bartner yng nghwmni chwarel Dinorwig a oedd yn allweddol i economi’r dref.

Daeth y Llewelyn ifanc yn gyfreithiwr gyda swyddfa yn Stryd y Farchnad. Ond ei ddiddordeb pennaf oedd hwylio yn ei iot a chystadlu mewn regatas ledled Prydain. Yn 1847, ac yntau’n 24 oed, sefydlodd y Clwb Hwylio Brenhinol Cymreig ym Mhorth yr Aur. Roedd yn wirfoddolwr gyda Chymdeithas y Badau Achub am flynyddoedd lawer. Bu’n aelod o Ymddiriedolaeth yr Harbwr ac yn gadeirydd arni yn ddiweddarach. Roedd hefyd yn allweddol wrth sefydlu’r ‘Royal Naval Reserve Force’ yn y Batri, lle mae’r Clwb Hwylio i’w weld heddiw.

Bwriodd ei hun i fywyd cyhoeddus y dref fel cynghorydd ac yna fel maer. Etholwyd ef i’r faeroliaeth pan oedd ond yn 36 oed a daliodd y swydd am 11 mlynedd (1859-1870) – y cyfnod hiraf i unrhyw faer Caernarfon.

Roedd blynyddoedd ei ieuenctid a hyd at ganol oed yn rhai cyffrous yn hanes Caernarfon, Cymru a Phrydain. Cyrhaeddodd y Chwyldro Diwydiannol ei anterth a symudoedd miloedd o’r wlad i fyw yn y trefi. Chwyddodd poblogaeth Caernarfon o 3,626 yn 1801 i dros 9,500 yn 1861.

Nid oedd cyflenwad dŵr glân na system garffosiaeth ar eu cyfer. Yn 1866 heintiwyd tua 400 o drigolion y dref gan y colera a bu agos i 100 ohonynt farw. Llewelyn oedd y maer ar y pryd, a darbwyllodd y cyngor i fenthyg £10,000 i ariannu system ddŵr newydd. Dyma pryd y codwyd ffowntain enwog Caernarfon sydd i’w gweld heddiw ar ben Stryd Llyn. Mae plac ar y maes yn cofnodi’r digwyddiad hanesyddol yma. Daliodd Llewelyn ymlaen gyda chynlluniau eraill i wella’r dref a  safon byw ei phobl. Cychwynodd y gwaith i adfer Castell Caernarfon.

Bu farw yn 1903, yn 80 oed. Mae wedi ei gladdu yn mynwent Llanfairisgaer, ar lan y Fenai.

Gyda diolch i Rhiannon James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1AT    Map