Cyn Gapel Pendref, Caernarfon

slate-plaque
button-theme-slaves

Cyn Gapel Pendref, Caernarfon

Capel Pendref oedd capel pwrpasol cyntaf Caernarfon. Ym 1722 dechreuodd nifer fach o drigolion gwrdd fel cymuned o Anghydffurfwyr (heb gydymffurfio â chyfaddefiad ffydd Eglwys Loegr). Erbyn 1782 roeddent yn ddigon niferus i ffurfioli fel eglwys ond gwrthododd tirfeddianwyr y dref, fel eglwyswyr, adeilad eu hunain iddynt.

Old photo of Capel Pendref in 1950
Capel Pendref ym 1950, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Cafodd Mrs Lloyd Edwards, o deulu Nanhoron yn Llŷn, brydles ar gyfer llain o dir yr adeiladwyd Capel Pendref a thŷ preswyl arno. Agorodd y capel Annibynnol ym 1791, wedi'i osod yn ôl o'r ffordd. Cafodd ei ailadeiladu a'i ehangu deirgwaith, gan gynnal cynulleidfa o 500 o bobl yn y pen draw.

Mae'r hen lun, trwy garedigrwydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion a Hynafol Cymru, yn dangos y capel ym 1950. Roedd yr adeiladau cyfagos yn cynnwys sinema’r Majestic, a ddinistriwyd gan dân ym 1994. Cafodd yr adeiladau eu dymchwel ac ail-luniwyd grisiau'r capel cyn i'r ffordd gael ei lledu.

Gweinidog enwocaf y capel oedd y bardd Caledfryn, y Parch William Williams, rhwng 1832 a 1848. Ymhlith yr achosion a gefnogodd roedd eisteddfod, gwrthwynebiad i'r Deddfau Ŷd, y Gymdeithas Heddwch, datgysylltu'r eglwys Anglicanaidd o'r wladwriaeth, a safon y Gymraeg.

ystradgynlais_moses_roper

Ar 29 Hydref 1841 cafwyd sgwrs yma gan y cyn-gaethwas Americanaidd Moses Roper (llun ar y chwith). Ar ôl artaith ac erledigaeth, roedd wedi ffoi’n llwyddiannus ar y 15fed ymgais i gyrraedd diogelwch cyfreithiol Prydain. Cyhoeddwyd ei lyfr 'Narrative of Roper's Escape from Slavery' ym 1839 ac argraffwyd 5,000 o gopïau o'r cyfieithiad Cymraeg.

Agorwyd capel Annibynnol arall, Salem, Caernarfon ym 1862 a dros y ganrif nesaf gostyngodd aelodaeth Pendref. Erbyn 1972 roedd y Pendref heb weinidog. Bu cyfnod o rannu gweinidogol ond oherwydd y niferoedd yn gostwng caeodd y capel yn 2012. Fe'i prynwyd gan y Celtic Royal Hotel at ddibenion gweinyddu priodasau.

Gyda diolch i Clive James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1AT    Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

Tour button for Caernarfon words and music tour Navigation previous buttonNavigation next button