Yr Allt Ddu, Dinorwig
Byddai llu o ddynion oedd yn byw i’r gorllewin o chwarel lechi Dinorwig yn cerdded i’w gwaith ar hyd llwybr yr Allt Ddu.
Teulu Assheton-Smith ac, yn nes ymlaen, gangen arall o’r un teulu o’r enw Duff, oedd perchnogion y chwarel. Roedd chwarel Dinorwig a chwarel y Penrhyn, ger Bethesda, yn cystadlu â’i gilydd. Erbyn 1882, o Gymru y deuai 92% o’r llechi a gynhyrchwyd ym Mhrydain. Rhyngddynt, roedd Dinorwig a’r Penrhyn yn cynhyrchu hanner y swm hwnnw.
Roedd Dinorwig yn rhan o stad y Faenol. Pan agorwyd y chwarel yn y 18fed ganrif, roedd perchnogion chwarel Dinorwig yn rhentu’r tewion neu’r gwelyau llechi i eraill. Newidiodd hyn yn 1809 pan gymerodd Thomas Assheton-Smith o Ashley yn Swydd Gaer reolaeth dros y chwareli ar ei dir. Gwnaeth stad y Faenol lawer o arian o Chwarel Dinorwig.
Bu’r chwarel yn eiddo i’r un teulu tan iddi gau a chael ei gwerthu yn 1969. Daeth llinach y teulu i ben pan fu farw perchennog olaf y chwarel, Michael Robert William Duff yn 1980.
Yn 1974, dechreuwyd adeiladu pwerdy trydan dŵr ar safle’r hen chwarel. Er mwyn gwarchod harddwch y safle, cafodd y pwerdy ei adeiladu yng nghrombil y mynydd. Agorwyd ef yn 1984 ac mae’n dal i weithio hyd heddiw.
Dynion lleol, o ardal Dinorwig, oedd rhai o’r chwarelwyr. Teithiai eraill o bell i weithio yn y chwarel. Yn aml, roedd y rhai oedd yn dod o rannau eraill o Gymru’n aros ar y safle yn ystod yr wythnos ac yn mynd adref at eu teuluoedd dros y penwythnos. Teithient o Langefni, Llannerch-y-medd, Brynsiencyn, Niwbwrch, Gaerwen, Llangaffo, Dwyran, Pentre Berw, Llanddaniel a Bodorgan ar Ynys Môn. Roedd rhai’n dod o rannau eraill o’r gogledd hefyd, fel Waunfawr, Eifionydd, Caernarfon a Llŷn.