Safle chwarel Rhiwledyn

Safle chwarel Rhiwledyn

Old photo of Little Orme quarry

Ail-luniwyd yr ochr hon i bentir Rhiwledyn trwy chwarela o ddiwedd yr 1880au hyd y 1930au. Anfonai’r Little Orme's Head Limestone Quarry Company galchfaen o'i bier islaw’r chwarel i'r Alban i'w ddefnyddio yn y diwydiannau dur a chemegau.

Symudwyd cerrig o wynebau'r chwarel at y pier ar wagenni rheilffordd cul, wedi'u tynnu gan locomotifau stêm. Cludwyd cerrig i lawr o'r lefel uchaf gan ddefnyddio gogwydd disgyrchiant, lle roedd wagenni wedi'u llwytho yn tynnu rhai gwag (wedi'u cysylltu gan gebl) i fyny ar drac cyfagos. Mae Llwybr Arfordir Cymru bellach yn dilyn y llwybr inclein.

Ym mis Tachwedd 1889 sugnwyd un o'r dynion a oedd yn adeiladu’r pier carreg i'r môr gan don. Carlamodd negesydd ar gefn ceffyl i wysio bad achub Llandudno ond bu farw William Williams, tua 21 oed, cyn i'r bad achub gyrraedd.

Workers and steam locomotive at Little Orme quarryRoedd tua 100 o ddynion yn cael eu cyflogi yn y chwarel erbyn Ebrill 1891, pan sefydlwyd ffrwydrad mawreddog i ddadleoli tua 100,000 tunnell o galchfaen mewn un taniad. Roedd twnnel hir wedi'i gloddio a'i lenwi â ffrwydron. Ymgasglodd cyfarwyddwyr y cwmni, pwysigion a thorf i wylio. Goleuodd yr Arglwydd Mostyn a thri o’r gwesteion eraill y ffiwsiau ond dim ond sïon a chwmwl o lwch oedd y canlyniad. Ychydig iawn o galchfaen a ddatgymalwyd. Credwyd bod holltau yn ffurfiant y graig wedi amsugno'r chwyth.

Gweithredwyd y chwarel gan y Ship Canal Portland Cement Company erbyn Mehefin 1916, pan gwympodd cerrig ar y gweithiwr JW Jones o Fethesda ac anafu ei droed. Bu’n rhaid torri ei “fawd” (bys mawr troed o bosibl) i ffwrdd, ac arhosodd yn Ysbyty Bwthyn Llandudno am 18 diwrnod. Honnodd y cwmni ei fod wedi anafu ei hun yn fwriadol er mwyn osgoi cael ei gonsgriptio i'r lluoedd arfog. Datbrofodd ei feddyg hynny a dyfarnodd barnwr iawndal iddo.

Photo of Royal Artillery practice camp on Little Orme

Ym 1919 hawliodd y chwarelwr Victor van Oorschot, dyn o Wlad Belg a drigai ym Mae Colwyn, iawndal am anafiadau a gafodd yn y chwarel. Roedd nifer o Wlad Belg wedi ffoi i Brydain ym 1914 wrth i luoedd yr Almaen oresgyn eu mamwlad.

Ym mis Mawrth 1942 dechreuodd y Magnelau Brenhinol danio tua'r môr o wersyll ymarfer ar ran o'r chwarel a adawyd, a oedd ar uchder addas uwch lefel y môr ac ymhell o dai. Daeth 77 fatris o bob rhan o Brydain i ymarfer yma, pob batri yn cynnwys tri swyddog a 95 dyn o’r rhengoedd eraill. Erbyn 1947 roedd y gwersyll yn gartref parhaol i 30 Coast Battery (Cwmni Roger), gyda thanio wedi'i gyfyngu i 15 gwaith y flwyddyn.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno, ac i John Lawson-Reay am y lluniau

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button