Gorsaf Reilffordd Llanelli

sign-out button-theme-crime

Gorsaf Reilffordd Llanelli

Llanelly oedd yr enw ar yr orsaf hon pan gafodd ei hagor yn 1852; hithau, bryd hynny, yn estyn gwasanaethau’r South Wales Railway o Abertawe i Gaerfyrddin yng ngorllewin Cymru. Tuedd rheilffyrdd cynharach oedd dilyn llwybrau gogledd - de er mwyn cysylltu diwydiant â dociau Llanelli. Croesai cledrau’r rhain gledrau’r SWR mewn pedwar man gwahanol ac ar yr un gwastad, gan ddrysu teithiau trenau. Unwyd SWR a’r Great Western Railway yn 1863.

Ar 18 Awst 1911 cafodd trên cyflym ei rwystro yng ngorsaf Llanelli gan weithwyr y rheilffordd a ddiffoddodd tân yr injan stêm. Roedd arweinwyr undebau llafur wedi gorchymyn i aelodau ar draws Prydain atal eu llafur wedi i drafodaethau am gyflogau ac amodau gwaith fethu ar 17 Awst.

Old photo of Llanelli stationRoedd llawer o weithwyr eraill, yn ogystal, yn teimlo’n anniddig yr haf hwnnw. Yn Llanelli ar 18 Awst casglodd sawl torf o bicedwyr o amryw ddiwydiannau lleol ar y croesfannau oedd ar y naill ochr a’r llall i’r orsaf. Anfonwyd milwyr ychwanegol i’r dref gan yr Ysgrifennydd Cartref, Winston Churchill – cyfran o’r 58,000 o filwyr a siarswyd i amddiffyn asedau’r rheilffyrdd ym mhob rhan o Brydain.

Ar 19 Awst gwnaed ymdrech benodol i anfon trên drwy Llanelli, ond rhwystrwyd y trên i’r gorllewin o’r orsaf gan bicedwyr. Darllenwyd y Ddeddf Derfysg a saethodd y milwyr at y dorf. Bu farw dau ŵr ifanc ugain oed: Leonard Worsell a John John (a gâi ei alw yn Jac). Dychwelodd y milwyr i’w cadarnle yn yr orsaf.

Roedd y trigolion lleol yn benwan a bu farw pedwar ohonyn nhw pan daniodd wagenaid o ddefnyddiau ffrwydrol.

Daeth y streic i ben y diwrnod hwnnw, wedi i lywodraeth ofidus alw’r rheolwyr ac arweinwyr yr undebau i drafod. Doedd undebau ddim yn cael eu cydnabod gan gwmnïau’r rheilffordd, ond roedd streic 1911 wedi dangos grym gweithredu ar y cyd gan y gweithwyr.

Heddiw mae gorsaf Llanelli yn ben-lein o bwys i dde-ddwyrain Sir Gaerfyrddin a cheir gwasanaethau cyson oddi yno i gyfeiriad y dwyrain, i Abertawe ac i Gaerdydd, ac i gyfeiriad y gorllewin i Sir Benfro. Mae’r trenau sy’n gwasanaethu Lein Calon Cymru yn troi am nôl yma wrth iddyn nhw deithio rhwng Amwythig ac Abertawe.

Y bocs signalau i’r gorllewin o’r orsaf yw’r bocs signal GWR Type 2 olaf yng Nghymru. Cafodd ei restru yn 2013. Mae’r sied nwyddau fawr i’r dwyrain o’r orsaf yn atgof o ba mor ddibynnol ar y rheilffyrdd roedd diwydiannau trymion ar un adeg.

Am yr enw lle:
Llanelli – eglwys Elli gyda llan ‘eglwys’ a’r enw personol Elli. Yn ôl Buchedd Cadog (c.1100), dywedir bod Elli yn ddisgybl i Cadog (o Langadog, Sir Gaerfyrddin).

Gyda diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA15 2RN    Map