Hen gartref Martha Gellhorn, Cilgwrrwg

button-theme-womenHen gartref Martha Gellhorn, Cilgwrrwg ger Cas-gwent

Am 14 mlynedd, Yew Tree House oedd cartref Martha Gellhorn, un o ohebwyr rhyfel mwyaf yr ugeinfed ganrif. Mae'n gartref preifat o hyd - peidiwch â chrwydro ar ei dir.

Portrait of Martha Gellhorn copyright Alexander Matthews
Martha Gellhorn © Alexander Matthews

Codwyd y plac porffor ar y postyn giât ym 2021, gyda chymorth Cymdeithas Hanes Lleol Drenewydd Gelli-farch, ar y cyd â grŵp Placiau Porffor Cymru sy'n ceisio nodi cyflawniadau menywod hynod ein cenedl.

Ganed Martha yn St Louis, Missouri, ym 1908 a bu farw yn Llundain ym 1998. Bu’n briod â’r nofelydd Ernest Hemmingway ar un adeg, ond roedd fwyaf adnabyddus fel newyddiadurwr di-ofn â meddwl annibynnol. Y dioddefwyr, nid gwleidyddiaeth rhyfel, oedd canolbwynt ei hadroddiadau bob amser.

Bu'n gohebu ar Ryfel Cartref Sbaen, yr Ail Ryfel Byd a’r brwydro yn Fietnam a'r Dwyrain Canol. Hi oedd yr unig ohebydd benywaidd adeg glaniadau Normandi 1944 ac un o'r ychydig rai a fu’n gohebu o’r gwersylloedd crynhoi oedd newydd eu rhyddhau o ddwylo’r Natsïaid. Roedd golygfeydd erchyll Dachau wedi serio yn ei chof weddill ei hoes.

Ymgartrefodd ym Mhrydain wedi’r Ail Ryfel Byd. Ym 1980, penderfynodd droi Yew Tree House – a’i ailenwi’n Catscradle - yn “encilfa cefn gwlad” iddi o Lundain. Yma y byddai’n ysgrifennu bob dydd ac yn ymroi’n frwd i arddio a choginio. Aeth ati i osod pwll nofio dan do ar gyfer ei hymarfer corff beunyddiol.

Ym 1994, gadawodd yr hen fwthyn yn anfoddog am ei bod bellach yn rhy hen “i lusgo biniau sbwriel lan y dreif”. Dywedodd: “Rwyf wedi caru fy amser yng Nghymru; mae’r bobl gyda’r mwyaf cyfeillgar yn y byd ond mae'r tywydd yn fochedd ar y cyfan. Hoffwn dreulio mwy o amser lle mae’n gynhesach.”

Yn ddiweddarach, cafodd wahoddiad gan y BBC i adrodd ar bwnc o’i dewis ar gyfer cyfres o ddarnau barn gan awduron tramor am wledydd Prydain. Yn 88 oed, penderfynodd ailymweld â Threcelyn (yn y cymoedd i'r gogledd o Gasnewydd), testun ei hadroddiad olaf fel gohebydd rheng flaen. Fel rhan o’i hadroddiad ar streic y glowyr 1984-85 ar gyfer The Guardian, cafodd ei chludo ar hyd a lled y cymoedd mewn hen racsyn o fan er mwyn sgwrsio â’r glowyr a’u gwragedd a gwylio’r gweithwyr elusennol yn paratoi parseli bwyd pitw i deuluoedd.

Ysgrifennodd Martha bum nofel, 14 nofelig a dau gasgliad o straeon byrion. Dyfernir gwobr flynyddol Martha Gellhorn am newyddiaduraeth.

Gyda diolch i Nancy Cavill, ac i Alexander Matthews am y llun

Cod post: NP16 6DA Map