Capel Seion gynt, Glais

Capel Seion gynt, Glais

Old photo of Seion Chapel, Glais

Ym mynwent y capel hwn, sydd wedi cau erbyn hyn, ceir cofeb i ddau löwr a gollwyd yn nhrychineb y Titanic - gweler isod.

Roedd Capel Annibynnol Seion, a agorodd  yn 1841, yn chwaer eglwys i Hebron, Clydach. Roedd y gynulleidfa wedi dechrau cwrdd yn 1834 ym Mhen-twyn, ffermdy ryw filltir oddi yma. Mae’r adeilad presennol yn ddyddio o 1865,yn helaethach ac wedi’i gynllunio gan y Parch. Thomas Thomas Abertawe.

Mae’r hen lun yn dangos mor agos mae’r adeilad at y Midland Railway rhwng Aberhonddu ac Abertawe. Y signal a’r bocs signalau ar du chwith y capel a reolai’r cyffordd i Abertawe via Llansamlet a via Treforys.

Photo of 1905 Seion Chapel jug

Rhwng 1904 a 1913 Thomas Evan Nicholas, ‘Bardd y bobl’ ac arwr y tlawd oedd gweinidog Seion. Ei enw barddol oedd Niclas y Glais ac yn ystod ei amser ef yn weinidog yma, sefydlodd gôr ac eisteddfod. Yn ddiweddarch, ac yntau’n Gomiwnydd a ganai glodydd yr Undeb Sofietaidd ac a ysgrifennai’n aml am beryglon ffasgiaeth yn Ewrop, denodd sylw’r awdurdodau, gan gynnwys MI5. Cyfansoddodd lawer o sonedau pan garcharwyd ef am bedwar mis yn ystod yr Ail Ryfel Byd – wedi’i amau o fod yn ffasgydd! Mae Heol Nicholas, Glais yn ei goffáu.

Mae’r jwg yn y llun ar y chwith yn perthyn i’w gyfnod ef yn Seion, pan elwodd y capel o’r diwygiad crefyddol cenedlaethol a daniwyd gan y Parch. Evan Roberts, Casllwchwr.

Mae’r llun o du mewn y capel yn cofnodi’r gwasanaeth olaf yn Seion ar 6 Mawrth 2019 pan dadgysegrwyd y fynwent. Prynwyd yr adeilad gan yr entrepreneur Derek Hughes; y bwriad yw diogelu’r adeilad a’i defnyddio yn fan gweithio.

Final service in Seion Chapel, Glais

Mae carreg fedd teulu Rogers o fferm Ynys-y-mond Uchaf (rhwng Glais ac Alltwen) yn gofnod o golledion niferus Elizabeth Rogers. Collodd dri baban, yna John, ei gŵr yn 1891 yn 58 oed. Ar 15 Ebrill 1912 boddwyd ei mab William John Rogers (30 oed) a’i hŵyr Evan Davies (22) pan suddodd RMS Titanic ar ôl taro yn erbyn mynydd iâ.

Mae cyfrifiad 1911 yn nodi mai torrwr glo oedd William ac Evan yn halier glo ar yr wyneb. Siaradai’r ddau Gymraeg a Saesneg ond Cymraeg yn unig a siaradai Elizabeth. Bu hi farw yn 1933 yn 85 oed.

Am yr enw lle:
Ystyr glais yw ‘nant’. Mae Nant Glais yn tarddu ar Fynydd y Drumau ac yn llifo drwy Cwmcyrnach.

Diolch i Lorna Crook a Derek Hughes, ac i’r Athro Dai Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Côd post: SA7 9JA    Map y lleoliad