Glan y Bala, Llanberis

Glan y Bala, Llanberis

Yn yr ardal hon yr oedd pobl oedd yn gweithio ar bonciau is chwarel lechi Dinorwig yn derbyn eu cyflog misol mewn tuniau bach. Roeddent yn tynnu'r darnau arian ohonynt yn syth ac yn rhoi'r tuniau mewn sach i'w hailddefnyddio.

Mae'r gair Cymraeg bala yn golygu tir sych rhwng dau lyn neu ardaloedd corsiog. Mae'r afon fechan yma yn llifo o Lyn Peris i Lyn Padarn. Mae'r dywediad lleol 'cael ei yrru dros Pont Bala' yn golygu bod rhywun wedi cael ei ddiswyddo o'r chwarel!

Fe wnaeth gorymdaith angladd Griffith Ellis, y rheolwr chwarel poblogaidd, gychwyn yma ym 1860. Roedd mwy na 1,500 o weithwyr chwarel wedi ymgynnull i dalu eu teyrngedau olaf.

Saif Bwthyn Glan y Bala i fyny'r bryn ger y bont. Roedd yn bodoli erbyn yr 1630au. Roedd cronfa ddŵr fechan y tu allan. Mae'n bosib bod y dŵr wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer cwrw (isel mewn alcohol), oedd yn fwy glanwaith na dŵr. Mae'r pwll yn mesur oddeutu 3x1.4 metr (10x4.5 troedfedd) ac mae bellach yn llawn rwbel llechi ar gyfer diogelwch.

Yn yr 1830au, adeiladwyd tŷ gydag wyth ystafell wely, o'r enw Glan y Bala, ar y llethr o dan y bwthyn. Cafodd ei ymestyn ddwywaith yn yr un ganrif. Daeth ychydig o'r deunydd o'r bwthyn wedi'i ddymchwel.

Erbyn yr 1870au, roedd yn gartref i Mary Duff, mam Charles Assheton Smith. Ef oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o'r tir yn yr ardal hon, gan gynnwys y chwarel. Achosodd Mrs Duff, oedd yn noddi'r band pres lleol, sgandal fechan ym 1872 drwy newid llw o'r Eglwys yn Lloegr, gan yrru o Lan y Bala i'r capel Catholig yng Nghaernarfon i addoli.

Yn ddiweddarach, bu Glan y Bala yn gartref i oruchwylwyr a rheolwyr y chwarel. Un ohonynt oedd William Henry Brinckman, ei wraig Winifred a'u merched. Fe’i ganwyd yn Ross-on-Wye ym 1861. Cafodd ei daflu i'r llyn ger Pont Bala unwaith ar ôl dweud wrth chwarelwyr i ddychwelyd i'w gwaith yn lle cario cyd-weithiwr clwyfedig i ysbyty'r chwarel. Roedd mwy nag wyth dyn (y nifer oedd yn cael ei ganiatáu) yn rhan o griw'r stretsier.

Symudodd i Swydd Henffordd ym 1910 gan fod yr hinsawdd yma yn ddrwg i'w iechyd. Nid oedd chwarelwyr cyffredin yn gallu symud i ffwrdd wrth i'w hiechyd ddirywio, ac roeddent yn parhau i weithio mewn lleoliadau agored ym mhob tywydd.

Heddiw, mae Glan y Bala yn cynnwys llety hunan-arlwyo - dilynwch y ddolen isod am fanylion.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Cod post: LL55 4TY    Map

Gwefan Gwyliau Glan y Bala

button-tour-town-quarry Navigation next buttonNavigation previous button