Tŷ Pwllypant gynt, Caerffili

Tŷ Pwllypant gynt, Caerffili

Credir fod rhan hynaf yr adeilad yn dyddio o’r C17eg. Achosodd un o’i gyn berchnogion gyffro pan adawodd yr ystâd i’r  Ardalydd Bute cyfoethog yn lle ei berthynas ef ei hun.

Photo of Pwllypant House c.1870

Roedd Tŷ Pwllypant yn gartref i’r teulu Williams o ddiwedd y C18fed neu cyn hynny. Roedd yr William Evans Williams ddibriod yn byw yma ganol y 19eg ganrif, roedd yn ystys ac yn berchennog ar lawer o dir yn yr ardal ac yng Nghasnewydd a Sir Frycheiniog. Bu diwydiannaeth yn fodd o gynyddu ei gyfoeth, drwy ddod ag incwm ychwanegol gan gynnwys breindaliadau o lofa Ene’r glyn a Rheilffordd Rhymni. Y tu allan i Dŷ Pwllypant, cododd “gloc anferthol” ac mae’n debyg iddo ei brynu yn Arddangosfa Paris yn 1867.

Bu farw, yn 62 mlwydd oed, ym mis Chwefror 1870, gan adael ei holl eiddo i’r Ardalydd Bute. Roedd hyn yn synnu’r wasg a’r cyhoedd, achos doedd gan Mr Williams yr un cysylltiad personol â’r Ardalydd. Cafodd rhyw fusnes gydag Ymddiriedolwyr Bute, a brydlesodd chwarel Pwllypant yn 1866 a defnyddiwyd peth o’r cerrig ar gyfer Doc Bute yng Nghaerdydd ac ar gyfer un o dyrrau castell Caerdydd.

Ar gyfer ei angladd yn Eglwys Ilan, rhoddwyd cadach sidan, het a phâr o fenig gan ddilledydd o Gaerdydd i’w ffermwyr oedd yn denantiaid iddo. Cawsant hefyd ginio mewn gwesty yng Nghaerffili. Dengys y llun uchod, drwy ganiatâd Cymdeithas Hanes Lleol Caerffili, Dŷ Pwllypant tuag adeg marwolaeth Mr Williams.

Gosododd yr Ardalydd Dŷ Pwllypant ar rent i John Stuart Corbett, mab Archddeon Efrog a gor-ŵyr Trydydd Ardalydd Bute. Ymestynnodd yr adeilad i wneud lle i’w deulu a’i lyfrgell. Roedd yn hanesydd ac archyddiaethydd.

Etifeddodd ei fab, oedd â’r un enw, y tŷ gan deithio ar y trên o Lanbradach i Gaerdydd lle'r oedd yn gyfreithiwr i ystâd Bute. Bu farw yn y tŷ yn 1921. Yr aelod olaf o’r teulu i fyw yma oedd Sybil Corbett-Williams a fu farw yn 1957.

Daeth y tŷ yn gartref i blant anabl yn ystod yr 1960au cynnar. Yn hwyrach bu’n glwb nos o’r enw Corbetts. Tafarn y Cedar Tree oedd tan 2015 pan newidiwyd ef i’r Toby Carvery. 

Gyda diolch i Dennis Sellwood o Gymdeithas Hanes Lleol Caerffili, ac i Ben Jones am y cyfieithiad

Postcode: CF83 3HX    Gweler map y lleoliad

Gwefan Toby Carvery Caerffili