Hen ffynnon, Llanrhath

acc-logoHen ffynnon, Llanrhath

Roedd y ffynnon a welir ger glan y môr yn rhan o gyflenwad dŵr a drefnwyd ar gyfer y pentref yn 1929 gan deulu Crosland, perchnogion Rhydlangoed neu Colby Lodge.

Etifeddwyd y tŷ a’r stad gan James Charles Herbert Crosland a’i wraig Gladys ar farwolaeth ei mam. Mae priflythrennau eu henwau ar y ffynnon o boptu’r ‘1929’ mewn rhifau Rhufeinig. Peiriannydd o Fanceinion oedd James. Roedd yn Gyrnol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Codwyd y ffynnon yn Coed Mor, nid nepell o safle’r maes parcio erbyn hyn. Ni chafodd fawr o ddefnydd gan fod y cyflenwad dŵr i’r pentref yn llifo trwy bibau plwm a’r rheini’n niweidiol i iechyd. A’i fusnes ynghau yn ystod cyfnod clo Covid-19, adnewyddwyd y ffynnon yn 2020 gan siopwr lleol, William Thwaites. Cafodd y ffynnon ei osod yn ei safle bresennol yn 2021.

Codwyd Colby Lodge gan John Colby a brynodd y tiroedd yn 1787. Roedd yn Llywodraethwr Castell Hwlffordd adeg yr ymosodiad olaf ar Brydain, gan y Ffrancod, ger Abergwaun yn 1797. Ef a drefnodd y milisia lleol er mwyn gwrthsefyll y cyrch hwnnw. 

Bu cloddio dyfal am lo carreg o ansawdd da yn Colby. Roedd plant mor ifanc a phump oed yn gweithio dan ddaear yn y gwythiennau cul. Gwisgent harnais o gwmpas y corff a’r harnais wedi cysylltu â chadwyni er mwyn iddyn nhw lusgo’r ceirt allan o’r pwll ar eu pedwar. Roedd damweiniau ac afiechyd yn gyffredin. Yn aml byddai’r rheini a oedd yn methu â gweithio yn y lofa yn mynd i’r wyrcws ger Arberth.

Mewn cyferbyniad llwyr, cynyddu a wnâi cyfoeth John Colby. Yn 1803 dechreuwyd adeiladu ei gartref newydd, Colby Lodge, yn edrych dros y glofeydd roedd yn berchen arnyn nhw. Roedd y tŷ yn cynnwys nodweddion cynlluniau o waith y pensaer enwog John Nash, ac roedd y gwaith dan oruchwiliaeth clerc y pensaer hwnnw.

Wedi dyddiau John Colby, trowyd y tŷ yn ysgol breifat. Yn 1852 roedd yn “sefydliad hydropathig” yn cynnig “gwellhad dŵr oer” i’r methedig. Yn 1873 prynwyd y tŷ gan Samuel Kay, fferyllydd o Gaerhirfryn. Ef a ddechreuodd blannu’r gerddi a ddaeth ag amlygrwydd i Colby. Ei ferch ef, Gladys, a gysylltir â’r ffynnon.

Cyflwynwyd rhannau o’r eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – gweler y troednodiadau. Pwyswch ar y ddolen isod i gael manylion ymweld.

Diolch i Mark Harvey

Cod post: SA67 8NG    Gweler y Map

Gwefan Gardd Goedwig Colby

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button

Troednodiadau: Perchnogaeth ddiweddar Colby Lodge

Yn 1960 daeth Colby yn eiddo i nith Mr a Mrs Crosland, Miss Elidyr Mason. Gadawodd hi rannau o Erddi Colby a’r tiroedd cyfagos i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn 1965 gwerthwyd Colby Lodge a’r ardd furiog i Pamela ac Ivan ‘Peter’ Chance, cadeirydd arwerthwyr Christie’s, Llundain. Aeth y gwaith plannu yn ei flaen a gosodwyd gweithiau celf ynghyd â cherfluniau.

Yng nghoedwigoedd dwyreiniol Gerddi Colby codwyd dwy glwyd haearn bwrw a ddaeth o Sion House, Dinbych-y-pysgod. Cynlluniwyd hwnnw gan John Nash a’i ddinistrio gan dân yn 1938. Roedd y teulu wrth eu bodd yn dangos ei cartref i ffrindiau o Lundain. Cynhaliwyd amryw ddigwyddiadau cymdeithasol yno. Yn 1979 cyflwynwyd y tŷ a’r ardd furiog i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynghyd â rhodd i dalu am blannu ysblander drudfawr o rododendrons.

Gwerthwyd y tŷ a’r ardd furiog i Tony a Cynthia Scourfield-Lewis gan yr ymddiredolaeth yn 1985. Daethon nhw o hyd i ryw 1,800 o boteli gweigion o gwmpas y lle ac ar hyd y tŷ – gwaddol partïon teulu Chance! Aeth y pâr ati i gynorthwyo i weddnewid yr ardd furiog ac i ffurfioli ei phryd. Canlyniad y gweithgarwch hwnnw a welir heddiw. Fe’i cyflwynwyd i’r ymddiriedolaeth drachefn yn 2010. Gwerthwyd Colby Lodge yn 2016.