Hen gartref y peilot Idwal Jones, Talysarn

theme page link buttonHen gartref y peilot Idwal Jones, Talysarn

Ar un adeg roedd rhif 1 Pen y Fron, Talysarn, yn gartref i Idwal Jones a oedd yn beilot styntiau gyda Syrcas Hedfan Cobham. Roedd tâd Idwal, sef Evan Jones, yn lwythwr llechi 32 oed pan gymerwyd cyfrifiad 1911.

Photo of Idwal Jones in his RAF daysYn byw gydag Evan yn 1 Pen y Fron oedd ei wraig Catherine, 28 oed, a'u tri plentyn, Idwal yn bump, Evan ei frawd yn saith a'i chwaer Elen yn dair. Hwyrach bu Idwal yn galw'i hun yn Idwal ap Ieuan Jones. Ap Ieuan = mab Ieuan/Evan.

Portrait of Idwal JonesAr enedigaeth Idwal yn 1905 roedd y teulu yn byw yn Penhafodlas Bach. Yna buodd y teulu yn byw mewn cyfres o dai, ac yn Medi 1912 symud o Pen y Fron i 20 Ffordd Hyfrydle (13 mis ar ol i Catherine farw). Bu Idwal fyw yna am weddill ei ieuenctid.

Ar ôl ysgol yn Nhal-y-Sarn a Penygroes wnaeth Idwal ymuno â'r RAF a gymhwysodd fel peilot yn ystod cyfnod anterth hedfan arddangos ym Mhrydain. Roedd esblygiad cyflym hedfan yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cynyddu y nifer o beilotiaid hyfforddedig i gynnwys Sir Alan Cobham, wnaeth hedfan yr awyren gytaf o Lundain i Cape Town yn 1926. Bu yn teithio Prydain gyda'i dîm arddangos a enwir yn "Cobham’s Flying Circus".

Ymunodd Idwal â'r tim arddangos yn Mai 1935 ac yna syfrdanu torfeydd gyda'i driciau gan gynnwys hedfan wyneb i waered a codi hances gydag adain ei awyren (gweler y llun). Bellach mlaen symudodd i dîm cystadleuydd, sef "Flying Circus” CWA Scott.

Photo of Idwal Jones collecing handkerchief with wing tipDegawdau yn ddiweddarach roedd trigolion lleol yn cofio, pan fu'r Syrcas Hedfan yn ymweld a'r ardal, hedfanodd Idwal heibio Talysarn a drwy chwarel Dorothea gan basio o dan y ceblau awyrol.

Mi adawodd y Syrcas Hedfan am fyd diogelach cludo teithwyr yn 1937, yn gweithio i "North Eastern Airways". Ar 29 Fai 1937 roedd yn hedfan awyren "Airspeed AS.5 Courier" pan fu damwain ger maes awyr Doncaster gydag Idwal a tri o'r teithwyr yn cael eu lladd gyda dau arall wedi anafu ond yn goroesu. Mae darlun awyren ar fedd Idwal yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni.

Gyda diolch i Cledwyn Williams. Ffynonellau eraill yn cynnwys ‘Early Aviation in North Wales’ gan Roy Sloan, Gwasg Garreg Gwalch 2001. Cyfieithiad gan Geraint George

Cod post: LL54 6LD    Map

 

 

 

 
Postcode: LL54 6LD