Safle porthladd canoloesol, Aberarth
A chithau ar y bompren yn mwynhau’r olygfa heddychlon ar hyd glannau afon Arth, anodd dychmygu mai dyma safle un o borthladdoedd pwysicaf Ceredigion yn yr Oesoedd Canol.
Byddai llawer iawn o gerrig nadd yn cael eu dadlwytho yma ar gyfer Abaty Ystrad Fflur a sefydlwyd yn 1164. Gellir torri a thrin cerrig nadd (calchfaen neu dywodfaen) dair ffordd. Caent eu defnyddio yn addurn ar ffenestri a drysau ac ar gyfer gwaith nadd neu gerfiedig ar golofnau.
Mae Ystrad Fflur ryw 35 km yn y mewndir, petaem ni’n dilyn ein ffyrdd ni heddiw. Heriol fyddai symud cerrig ar hyd llwybrau’r canol oesoedd. Deuai’r calchfaen o Dundry, ger Bryste a’r tywodfaen o gyffiniau Malltraeth, Sir Fôn. Gweler y troednodiadau am esboniad pam y câi defnyddiau eu cludo o safleoedd mor bell i ffwrdd.
Defnyddiwyd porthladd Aberarth gan yr abaty mewn cyfnod diweddarach i ddosbarthu cynnyrch tiroedd y fynachlog. Roedd yn fwy hwylus i symud llwythi sylweddol o gynnyrch fferm i rannau eraill o Gymru a Phrydain ar gwch, yn hytrach nag ar draws gwlad.
Roedd peth o’r grawn a gyrhaeddai Aberarth yn cael ei falu yn y pentref. Nodir hynny mewn cofnodion am Ystrad Fflur sy’n perthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg. Ailadeiladwyd y felin ŷd yn 1819 ac mae’n dal yma hyd heddiw. Gellwch ei gweld ychydig i fyny’r ffordd o’r bompren ar lan ogledd-ddwyreiniol yr afon.
Roedd y mynachod yn gyfrifol am y coredau ar draeth Aberarth, fel y gellwch ddarllen ar ein tudalen am olion y coredau hyn.
Yn ddiweddarach datblygodd diwydiant bychan adeiladu llongau yn Aberarth, ond edwino a wnaeth hwn, ynghyd â’r porthladd, pan ddatblygwyd Aberaeron yn borthladd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Enw’r lle:
Dynoda Aberarth neu Aber-arth geg afon Arth. Mae sawl afon wedi’i henwi ar ôl creadur. Dysgrifir y plwyf yn gyffredinol yn Llanddewi Aberarth, yn sgil cysegru’r eglwys i Ddewi Sant. Saif yr eglwys i’r de o’r pentref.
Diolch i Tim Palmer, John Davies, David Roberts a Michael Statham o Fforwm Cerrig Cymru ac i Richard Morgan o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Diolch hefyd i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA46 0LP Gweld map y lleoliad
![]() |
![]() ![]() |