Ffynnon y Wrach, Caergybi
Adeiladwyd y cwt cromennog ger y ffordd hon i warchod ffynnon oedd yn darparu dŵr yfed glân i drigolion Caergybi. Mae'r strwythur wedi'i restru oherwydd ei “ddyluniad ac adeiladwaith hynod anarferol”.
Ar ôl adeiladu ffordd gerbydau Thomas Telford o Lundain i Gaergybi, ac yna Reilffordd Caer a Chaergybi, llethwyd y system sefydledig o ran cyflenwi dŵr a glanweithdra gan dwf y porthladd a’r dref. Roedd hyn yn ddrwg i iechyd y cyhoedd. Rhwng Hydref a Rhagfyr 1849, er enghraifft, bu farw 30 o bobl yn ardal Caergybi o'r colera, clefyd a gludir gan ddŵr.
Ym 1858 llenwyd dwy ffynnon mewn caeau ger y dref a gosodwyd “ffynhonnau newydd a mwy cyfleus” yn eu lle oedd “yn cael digonedd o’r un dŵr” ond eu bod, yn hytrach, wrth ymyl ffyrdd.
Yn y 1860au, gosododd Cwmni Gwaith Dŵr newydd Caergybi bibellau dŵr yn y dref. Mae'n debyg bod y cwt cromennog wedi'i greu yn rhan o'r gwaith hwnnw. Rhoddodd y cwmni rybudd yn 1865 ei fod wedi gwneud cais i’r Senedd am yr hawl i adeiladu cronfeydd dŵr ac i gymryd dŵr o “ffynnon benodol yn ymyl rhai caeau ger y ffordd o Gaergybi i oleudy Ynys Lawd” – cyfeiriad amlwg at Ffynnon y Wrach.
Ym 1875, cyhoeddodd gŵr busnes lleol ei fod wedi dechrau potelu dŵr o’r “ffynnon enwog o’r enw Ffynnon y Wrach, wrth droed mynydd Twr”.
Mae’n bosib bod tarddiad arall i’r gair ‘gwrach’, sef ‘crach’, sy’n golygu ‘garw’ (a allai gyfeirio at leoliad y ffynnon ger ardal o dir garw neu greigiog).
Gwnaeth Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi waith cadwraeth ar gwt y ffynnon yn 2023.