Cob Porthmadog
Mae'r ffordd, Llwybr Arfordir Cymru a Rheilffordd Ffestiniog yn croesi Traeth Mawr ar arglawdd, sef y Cob. Mae’r hen lun, o’r 1890au, yn dangos yr olygfa o’r Cob tuag at Cnicht a’r Moelwynau – cliciwch yma am ein tudalen sy’n esbonio enwau’r mynyddau a welwch.
Cwblhawyd y Cob yn 1811 ar ôl pedair blynedd o adeiladu. Mae’r darlun, gyda diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dangos y gwaith adeiladu yn 1810.
Roedd yr arglawdd yn rhan o gynllun mawr gan William Alexander Madocks, Aelod Seneddol cyfoethog o Swydd Lincoln a oedd wedi prynu gwahanol ddarnau o dir yn ardal Traeth Mawr. Roedd adeiladu’r Cob yn heriol ac yn dibynnu ar sgiliau John Williams, asiant ystâd Gymreig yr AS. Ynys Tywyn oedd cartref a swyddfa John yn ystod y prosiect.
O ganlyniad i godi’r arglawdd a chreu cyfleusterau ar gyfer rheoli dŵr, draeniwyd ardal fawr o dir yn barhaol, ac fe’i ddefnyddid ar gyfer amaethyddiaeth. Torrodd y môr trwy’r Cob yn ystod storm ym 1812. Cynigiodd bron i 900 o ddynion o bob rhan o Ogledd Cymru, gyda mwy na 700 o geffylau, eu llafur er mwyn cau’r bwlch.
Roedd Madocks yn llygadu cynlluniau a oedd ar y gweill i ddatblygu Porthdinllaen, yn Llŷn, fel y prif borthladd ar gyfer llongau i Ddulyn. Byddai angen gwelliannau i’r ffyrdd, ac roedd Madocks yn gobeithio y byddai'r llwybr newydd yn croesi ei arglawdd newydd. Fodd bynnag, datblygwyd Caergybi yn lle Porthdinllaen, ac aeth y ffordd newydd trwy ran o Eryri a oedd ymhell i'r gogledd o Draeth Mawr.
Nid fu Madocks fyw yn ddigon hir i weld y Cob yn dod yn ddefnyddiol iawn fel prif wythïen ar gyfer llechi o chwareli Bro Ffestiniog. Ym 1832 caniataodd Deddf Seneddol adeiladu rheilffordd gul o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog, gan ddefnyddio'r Cob ar gyfer y 1.5km terfynol. Ysgogodd hyn dwf cyflym y porthladd a’r harbwr ym Mhorthmadog. Mae trenau Rheilffordd Ffestiniog yn dal i groesi'r Cob, bellach yn cario hamddenwyr yn hytrach na llechi.
Pan agorwyd ffordd osgoi Porthmadog yn 2011, rhyddhawyd y Cob o draffig trwodd trwm a thagfeydd yn ystod gwyliau’r haf.
Yn ôl Y Mabinogi, ar Draeth Mawr y cytunodd dwy garfan ryfelgar i setlo eu gwrthdaro trwy ornest rhwng Pryderi, o Dde Cymru, a Gwydion o'r Gogledd. Roedd Gwydion wedi sbarduno’r gwrthdaro drwy ddwyn moch Pryderi. Defnyddiodd hud a lledrith i'w helpu i drechu Pryderi yn yr ornest ger Maentwrog, lle claddwyd Pryderi.