Eglwys y Santes Fair, Llanfair Pwllgwyngyll

Eglwys y Santes Fair, Llanfair Pwllgwyngyll

Saif eglwys blwyfol Llanfair Pwllgwyngyll mewn llecyn tawel ar lannau'r Fenai. Adeilad o oes Fictoria yw'r addoldy presennol, ond mae'n amlwg fod y safle yn un hynafol iawn. Mae siâp crwn y fynwent wreiddiol yn awgrymu fod y lle o bosib yn dyddio'n ôl i gyfnod y seintiau Celtaidd.

Cawn y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf i'r eglwys yn y ddogfen y cyfeirir ati fel Trethiant Norwich, a hynny o'r flwyddyn 1254. Ecc'a (hynny yw, ecclesia) Piwllgunyl (sef Pwllgwyngyll) oedd enw'r eglwys yn ôl y ddogfen hon, a thrwy gydol yr oesoedd canol gwelwn fersiynau eraill o'r enw yn ymddangos.

Ym 1406, er enghraifft, fe gawn enw Gruffydd, offeiriad de Pwllgwimbill, ymhlith y 398 o ddynion Dindaethwy a gosbwyd ym Miwmares am gefnogi gwrthryfel Owain Glyndŵr. Mae'n amlwg felly bod cysylltiad agos rhwng yr eglwys fediefal, a'r drefgordd ganoloesol o'r un enw.

Yn wir, nid oes cofnod o'r fersiwn modern o'r enw tan gyfnod Harri VIII. Ym 1540, ceir Leland yn cyfeirio at y plwyf fel llan Vair y pull Gwinhgill. Yna, dair blynedd yn ddiweddarach cawn hanes penodi'r Parchedig David Moythe yn rheithor Llanvair in pull gwingill, cum capella de Llantisilio.

Yn wahanol i nifer o blwyfi eraill yn y rhan hon o Fôn, fe gysegrwyd yr eglwys i'r Forwyn Fair, ac nid i un o'r seintiau Celtaidd. Mae Llanfair Pwllgwyngyll yn un o 11 o eglwysi'r ynys sydd â chysylltiad â chwlt y Forwyn Fair, ac mae’r mwyafrif o'r rhain wedi eu lleoli ar, neu yn agos iawn at, yr arfordir. Yn yr oesoedd canol yr oedd yna gred bendant fod gan Fair (Arglwyddes y moroedd) ofal arbennig dros fywydau morwyr, ac efallai mai hyn sy'n egluro'r cysegriad. Ar y llaw arall, mae yna dystiolaeth yn bodoli sydd yn ein harwain i gredu mai dylanwad Normanaidd, sydd efallai y tu ôl i hyn oll.

Yr oedd yr hen eglwys, a adeiladwyd yn y cyfnod cyn y goncwest Edwardaidd, ac a chwalwyd ym 1853, yn unigryw – yn bennaf gan fod aps hanner crwn ym mhen dwyreiniol yr addoldy. Yma, yr eisteddai teulu'r offeiriad yn yr adeg wedi'r Diwygiad Protestannaidd. Yn ôl un hanesydd, dyma'r unig enghraifft o'r nodwedd bensaernïol arbennig hon drwy Gymru gyfan, ac eithrio yn yr eglwysi cadeiriol.

Gyda diolch i Gerwyn James


Map

Gwefan y plwyf