Pont Pen y Llyn, Brynrefail

Link to commissioned work information pagesPont Pen y Llyn, Brynrefail

Adeiladwyd y bont garreg ym 1826 i gysylltu chwarel lechi Fachwen â'r brif ffordd o Gaernarfon i Lanberis. Mae ganddi bedwar bwa ac mae'n croesi afon Rhythallt wrth i'r afon honno adael Llyn Padarn. Mae’r hen lun (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru – the National Library of Wales) yn dangos y bont c.1860.

Old photo of Pont Pen y Llyn c1860Dyluniwyd y bont gan beiriannydd a oedd wedi'i addysgu ei hun. Ei enw oedd John Hughes, a bu'n gweithio i ddechrau fel gof ym Mhenygroes, ond yn fuan daeth i sylw'r Arglwydd Niwbwrch oherwydd ei ddyfeisgarwch a'i chwaeth am brydferthwch.

Cynorthwyodd Mr Hughes i greu'r nodweddion dŵr yng Nglynllifon, plasty'r Arglwydd Niwbwrch i'r de o Gaernarfon, ac ar un adeg ef oedd rheolwr chwarel Glyn Rhonwy, oedd piau Niwbwrch (ar y dde o'r llyn wrth edrych o'r fan hon). Dysgodd ysgrifennu'n Gymraeg yn oedolyn ac yna dysgodd ysgrifennu'n Saesneg er mwyn cadw trefn ar gofnodion y chwarel. Ni ddaeth fyth yn siaradwr Saesneg rhugl.

Mae'r ffotograff cyfoes o bont Pen Llyn gan Ken Latham yn rhoi syniad i chi o ddyluniad y strwythur ac o'r elfennau addurniadol a fyddai wedi bodloni'r Arglwydd Niwbwrch. Addasodd y bont yn dda i ddyfodiad y cerbydau ffordd modur, ac nid oes cyfyngiadau pwysau arni heddiw.

Teyrnasai chwarel Dinorwig gerllaw, a oedd ym meddiant Thomas Assheton Smith, dros chwarel yr Arglwydd Niwbwrch yn Y Fachwen (ar ochr chwith y llyn wrth edrych o'r fan hon). Roedd tir Y Fachwen yn rhwystr ar lan yr afon o Ddinorwig i'r môr nes i'r Arglwydd Niwbwrch ei werthu.

Photo of Pont Pen y Llyn

Adeiladwyd rheilffordd wedyn, ym 1843, ar hyd glan y llyn i gludo cynnyrch Dinorwig i longau yn Y Felinheli. Mae trenau ager Rheilffordd Llyn Llanberis bellach yn dilyn rhan o'r llwybr hwnnw.

Roedd yn well gan yr Arglwydd Niwbwrch ddanfon ei lechi drwy borthladd Caernarfon yn hytrach na'r Felinheli. Dyna pam adeiladodd ffordd - gan gynnwys y bont hon - i gludo llechi o'r Fachwen i ffordd Caernarfon.

Gyda diolch i Dr David Gwyn, o Ymgynghoriaeth Govannon

Map

LON LAS PERIS Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button