Cymraeg Morfa Dyffryn reserve

Gwarchodfa Morfa Dyffryn

Mae’r Warchodfa Natur Genedlaethol hon yn ymestyn am 7km ar hyd yr arfordir rhwng ceg aberoedd yr Artro (yn y gogledd) a’r Ysgethin. Mae'r dirwedd twyni yn hynod ddeinamig a chyfnewidiol, ac yn gartref i boblogaethau lu o blanhigion ac anifeiliaid sy’n arbenigol i dwyni.

Mae’r pantiau rhwyng y twyni yn llaith yn dymhorol, ac yn gartref i lysiau’r-afu petalaidd (petalwort), aelod bychan o deulu llysiau’r afu (liverwort). Nodir Morfa Dyffryn hefyd am ei boblogaethau mawr o bryfed twyni arbenigol, yn cynnwys y wenynen mwyngloddio Celtaidd Colletes cunicularius, gwenynen cymdeithasol sy'n byw mewn sgarpiau twyni cynnes sy'n wynebu'r de. Mae tyllau cwningod helaeth y safle yn gynefin nythu ar gyfer tinwen y garn, sy'n codi ei chywion o dan y ddaear, yn ddiogel rhag adar ysglyfaethus.

Cydnabyddir Morfa Dyffryn fel y system twyni tywod mwyaf deinamig yng Nghymru, gydag eangderau mawr o dywod symudol sydd yn aml yn foel neu â dim ond ychydig o lystyfiant. Mae hyn yn anghyffredin gan fod y rhan fwyaf o systemau twyni y DU ac Ewrop wedi dod yn fwyfwy sefydlog, gyda llystyfiant yn eu gwneud yn fwyfwy anaddas ar gyfer rhywogaethau twyni hynod arbenigol. Mae Morfa Dyffryn felly yn darparu lloches hynod werthfawr ar gyfer rhywogaethau prin.

Ar ymyl yr arfordir, mae gweithgareddau y llyngyr diliau (honeycomb worm) prin yn creu twmpathau bach ar hyd y blaendraeth isaf. Mae hyn yn helpu i atgyfnerthu’r traeth ac i greu cynefin creigres sefydlog ar gyfer rhywogaethau morol amrywiol.

Rheolir Morfa Dyffryn gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymhle mae’r HiPoint hwn?

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button