Penddelw’r Tywysog Charles, Neuadd Dewi Sant

Penddelw’r Tywysog Charles, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Cyflwynwyd y penddelw hwn o’r Tywysog Charles, Tywysog Cymru, i Neuadd Dewi Sant gan Gymdeithas Celf Gyfoes Cymru. Fe’i crëwyd gan Ivor Roberts-Jones (ond sydd â’i enw wedi ei nodi yn anghywir fel ‘Ivor Robert Jones’ ar yr arysgrif). Fe’i ganed yn 1913 ac fe’i magwyd yng Nghroesoswallt, ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac ystyriwyd ef fel cerflunydd gwychaf Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Bu farw ym 1966.

Mae ei weithiau eraill yn cynnwys cerflun maint llawn o Syr Winston Churchill ar Sgwâr y Senedd yn Llundain.

Photo of Prince Charles, Theresa May and Carwyn Jones

Ganed y Tywysog Charles ym 1948, plentyn cyntaf y frenhines Elizabeth II a’r Tywysog Philip. Fe’i harwisgwyd yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ym 1969. Wrth baratoi treuliodd dymor yn dysgu siarad Cymraeg yn y brifysgol yn Aberystwyth. Priododd â’r Arglwyddes Diana Spencer yn 1981 a gwahanu oddi wrthi ym 1992. Priododd â Camilla Parker Bowles yn 2005.

Dengys y llun ef ar un o'i ymweliadau â’r Neuadd. Roedd hyn ar Ddiwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn 2013. Ar y chwith mae Theresa May, Ysgrifennydd Cartref y DU. Daeth yn Brif Weinidog yn 2016. Yn nes at ganol y llun gwelir Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.

Mae’r penddelw yn eistedd mewn cilfach yng nghyntedd y Neuadd (i’r chwith o’r drysau). Dyluniwyd y gilfach gan y pensaer Ivan Dale Owen o Ferthyr. Ef hefyd ddyluniodd y penddelw o Richard Burton yn y Theatr Newydd, Caerdydd.

Islaw'r gilfach mae carreg sylfaen y Neuadd. Fe’i gosodwyd gan y Tywysog Charles ar 21 Gorffennaf 1979 ym mhresenoldeb yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Bella Brown, a phwysigion eraill.

Cod post: CF10 1AH    Map

Gwefan Neuadd Dewi Sant

 

St Davids Hall foyer  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button