Gwarchodfa natur Coed Cyrnol, Porthaethwy

Logo of Welsh Place Name SocietyGwarchodfa natur Coed Cyrnol, Porthaethwy

Cerrig y Borth oedd enw gwreiddiol y tir hwn a chyfeiria’r enw naill ai at y cerrig sarn a arweiniai at Ynys Tysilio (neu Church Island) wrth droed y rhiw yn y fan hon, neu’n debycach at y graig sylweddol sy’n edrych dros Y Fenai. Os ydych newydd sganio’r codau QR gerllaw’r maes parcio, sylwch sut mae’r dirwedd yn codi tua’r de.

Safle strategol y tir sy’n awgrymu, hwyrach, pam y cafodd 37 o ddarnau o arian bath o’r 3edd ganrif O.C. eu darganfod yma ynghyd â chrochenwaith a bwyell ryfel a wnaed o garreg a’r rheini’n perthyn i’r Oes Efydd Gynnar.

Yn 1814 crewyd coetir yma gan Iarll Uxbridge (Ardalydd Môn, wedi hynny) ar 41 erw a ddaeth yn eiddo iddo. Ymhen yrhawg daethpwyd i’w alw’n Coed Cyrnol ar ôl ryw Cyrnol Sandys a drigai gerllaw yn ail hanner y 19ed ganrif. Ymhen amser gwerthwyd y tir gan yr Ardalydd i Gyngor Dosbarth Trefol Porthaethwy; cafodd ei agor yn ffurfiol i’r cyhoedd yn 1951. Erbyn hyn mae’n Warchodfa Natur Leol.

Yn 1188 yn ystod eu taith drwy Gymru yn pregethu ac yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad, croeswyd y Fenai gan Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint. Noda Gerallt i’r Archesgob, ynghyd ag archddiacon lleol o’r enw Alexander, a Seisyll, abad Ystrad Fflur, bregethu ar lan y môr lle roedd y creigiau yn ffurfio bwa ar lun theatr. Credir mai’r lleoliad hwnnw oedd lle a elwir heddiw yn Goed Cyrnol.

Ceisiodd y pregethwyr  berswadio bagad o ddynion ifainc i ymuno â’r groesgad, ond ofer fu eu hymdrech. Dridiau’n ddiweddarach, ymosodwyd ar y llanciau gan ladron. Lladdwyd rhai ohonynt a chlwyfwyd eraill. Listiodd y rheini a oroesodd yn ddiymdroi. Mae Gerallt yn ein hysbysu yn ei ddyddiadur mai “Môn Mam Cymru” fu enw’r ynys erioed am ei bod yn cynhyrchu mwy o rawn na’r un ardal arall yng Nghymru ac yn llwyddo  i wneud hynny hyd yn oed pan oedd cnydau’n methu ym mhob man arall.

I’r dwyrain o Goed Cyrnol, ger y briffordd, mae safle ffair geffylau a gynhelid o 1690 ymlaen. Mae’r enw’r safle wedi newid dros y blynyddoedd - y Smithfield, Cae Sêl (sale field) a Mart. Chwalwyd y safle er mwyn adeiladu archfarchnad a fu yn ei thro yn eiddo i Leo’s, y Co-op ac erbyn hyn Waitrose.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Chyngor Tref Porthaethwy

Map

Place Names Unbundled Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button
button_tour_gerald-W Navigation previous buttonNavigation next button