Carreg Orchest Cam, Cricieth

Carreg Orchest Cam, Cricieth

Roedd y garreg yma, sydd rwan tu allan I’r Neuadd Goffa, yn wreiddiiol of flaen Neuadd Y Dref wrth droed y castell. Fe’i adwaenid fel ‘Carreg Cam’. Mae’r enw yn cefnogi’r stori lleol bod pobl yn arfer defnyddio’r garreg i ‘gamu’ are eu ceffylau. Roedd y bobl leol yn dweud wrth ymwelwyr fod gan y garreg pwerau cyfrinol!

Adnabyddir yr ardal yna ar y pryd fel ‘Y Dref’. Fe gafodd ei disodli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan dyfodd y Stryd Fawr ar hyd ffordd dyrpeg 1807. Cynhaliwyd y farchnad a’r ffair yn Y Dref o’r sgwar i lawr i Abermarchnad ac ar y glaswellt o flaen Neuadd Y Dref roedd y gweision fferm yn ymgynull ac yn herio’i gilydd i godi’r garreg – sydd yn pwyso oddeutu 170kg.

Yn yr 1880au roedd David Lloyd George yn byw yn Rhesdai Tanygrisiau ac yn mynd heibio’r garreg bob diwrnod ar ei ffordd i’r orsaf i ddal tren i’w swyddfa ym Mhorthmadog. Roedd cyfarfodydd yn digwydd ar y glaswellt o flaen Neuadd Y Dref ac yn ystod ymgyrchoedd etholiadol roedd y darpar ymgeiswyr yn areithio yma. Efallai bod Prif Weinidog y dyfodol wedi sefyll ar y garreg i annerch y bobl leol.

Yn 1927 penderfynodd y cyngor lleol symud Carreg Cam o Neuadd y Dref i erddi’r Neuadd Goffa ac erbyn heddiw mae yna gystadleuaeth flynyddol i ddynion cryfion y byd i ddod i godi’r Garreg Orchest.

Gyda diolch i Robert Cadwalader

Côd post: LL52 0HB    Map

Gwefan y Neuadd Goffa – manylion sut y gallwch geisio codi'r garreg