Eglwys Sant Hilary, Llanilar

tour logo and link to information page

Eglwys Sant Hilary, Llanilar

Dywedir bod yr eglwys hon yn dyddio o’r 14 ganrif. Mae’r fynwent ar ffurf cylch caeedig sy’n awgrymu bod cell grefyddol -llan- yma yng nghanrifoedd cynnar Cristnogaeth yng Nghymru.  Mae’r eglwys wedi’i chysegru naill ai i Hilary, esgob dinas Poitiers yn Ffrainc neu i Gristion cynnar o Gymro o’r enw Ilar.

Addsawyd yr eglwys ganoloesol wrth adnewyddu’r adeilad yn y 1870au. Yn y cyntedd y mae carreg Geltaidd gerfiedig o Gaer Maesmynach, bryngaer ger Llanbedr Pont Steffan.

Mae’n debygol bod y tŵr gwreiddiol yn uwch. Cafodd ei ostwng yn y 19 ganrif. Mae dwy gloch yma, un ohonyn nhw yn dyddio o c. 1350. Symudwyd hi o eglwys Rhos-y-garth pan gaewyd honno ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae traddodiad i Harri Tudur a chnewyllyn o’i fyddin deithio drwy Llanilar yn Awst 1485 ar y daith o Sir Benfro i Faes Bosworth. Dywedir iddo fynd ar gefn ei geffyl o ben carreg a welir hyd heddiw ger clwyd yr eglwys. Mae’n bosibl i Harri dreulio’r nos yn Llaidiardau, tŷ sylweddol tua 1.4 km i’r dwyrain o Llanilar. Cysgodd ei wŷr yn yr eglwys.  

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad


Cod post: SY23 4SA    Map

Gwefan y plwyf

Henry Tudor’s route to Bosworth  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button