Gwarchodfa Morfa Harlech

Gwarchodfa Morfa Harlech

Mae’r Warchodfa Natur Genedlaethol hon yn dilyn glan ddeheuol moryd y Dwyryd, yna mae’n troi i ddilyn yr arfordir i Harlech. Fe’i hystyrir yn un o'r systemau twyni mwyaf arwyddocaol ym Mhrydain sy'n dal i dyfu.

Heddiw, gall fod yn anodd credu fod y tir gwastad yn yr ardal hon wedi’i orchuddio gan y môr tan yn gymharol ddiweddar. Pan adeiladwyd Castell Harlech yn y 13eg ganrif, byddai llongau’n docioi oddi tano er mwyn i nwyddau neu deithwyr fynd at y castell drwy'r grisiau i fyny'r clogwyn ar yr ochr orllewinol. Ceir ychwaneg o gliwiau yn rhai o’r enwau ar lefydd mewndirol lleol, megis pentrefan Ynys a Llanfihangel Ynys-y-Traethau.

Mae tywod yn parhau i gronni yma, gan ymestyn yr arfordir tua'r gorllewin. Daw’r cyflenwad tywod yn bennaf o waelod y môr ym Mae Ceredigion.

Mae Morfa Harlech yn gynefin ar gyfer planhigion ac infertebratau prin. Mae'r slaciau, y pantiau rhwng y twyni sydd o dan ddŵr yn dymhorol, yn arbennig o bwysig ar gyfer rhywogaethau sy’n byw mewn gwlyptiroedd, yn cynnwys tegeirianau’r gors a phoblogaeth o bili pala o’r enw brith y gors.

Cafodd madfallod y tywod eu hail-gyflwyno i Forfa Harlech. Maent yn byw yn y twyni sy'n wynebu'r môr. Yma mae’r twyni yn gymharol symudol, ac mae’r moresg trwchus yn darparu cynefin addas.

Mae'r tywod gwastad a’r morfeydd heli awrth ymyl a Dwyryd yn ardaloedd lle y gall rhywogaethau amrywiol o adar gwyllt, yn enwedig hwyaden lostfain, fwydo yn ystod y gaeaf. Mae dyfrgwn a llygod dŵr hefyd yn byw yma.

Rheolir Morfa Harlech gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymhle mae’r HiPoint hwn?

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button