Cyn-siop gwneuthurwr telesgop

Cyn-siop gwneuthurwr telesgop, Abertawe

Am rai degawdau, trigai teulu o’r enw Cousens, gwneuthurwyr watshys ac offer morwrol, yn 20 Wind Street. Yn 1854, Richard Cousens oedd yn gyfrifol am y busnes a’r disgrifiad a roed ohono yn 1874 oedd “gwneuthurwr cronomedrau ac optegydd”.

Nodai cronomedrau yr amser yn fanylach nag amseriaduron eraill a byddent yn cael eu defnyddio gan forwyr i fesur lledred. Yn 1854 roedd Abertawe’n borthladd prysur a llawer iawn o fwyn copor yn cyrraedd ar gyfer y ffwrneisi. Roedd Doc y Gogledd a oedd wedi’i gwblhau ddwy flynedd ynghynt, namyn tafliad carreg o Wind Street (lle y mae Plantasia a pharc manwerthu Parc Tawe heddiw).

RoPhoto of Swansea-made telescopeedd darparu offer morwrol yn rhoi bywoliaeth i lawer o drigolion Abertawe. Yn 1854 roedd 12 o fusnesau’n gwneud amseryddion yn Abertawe; ac roedd 5 ohonyn nhw yn Wind Street.

Yn ei gasgliad personol mae gan Nick Denbow delesgop a wnaed yn 1890 ag enw B.R. Cousens, Swansea (gw. y llun) arno. Cafodd ei ddefnyddio gan y llynges yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond oherwydd ei fod yn pwyso ryw 2kg roedd angen cynhalbren i’w ddal.

Basil Rayson Cousens, yn ôl pob tebyg, oedd y gwneuthurwr offer morwrol olaf i weithio yn 20 Wind Street. Yn Ionawr 1900 trosglwyddwyd y busnes gan Edith Annie Cooke (gynt Cousens) i Edward Towers, adeiladydd llongau yn Abertawe.

Yn ddiweddarach daeth y National Electric Wiring Co. Ltd. i’r adeilad; darparu goleuadau, gwres, clychau a ffonau oedd eu busnes nhw. Roedden nhw’n honni na fydden nhw’n arbrofi ar draul cwsmeriaid. Yn 1926 ymgartrefodd Lewis a Tyler Ltd, gwneuthurwyr beltiau peiriannau yma ynghyd â dau frocer stoc a chyfrifydd.

Gyda diolch i Nick Denbow, ac i'r Athro David Thorne am y cyfieithiad

Côd Post: SA1 1DY    Gweld Map Lleoliad

Blog telesgopau Nick Denbow

Tales of old Wind Street Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button