Neuadd Albert, Llandrindod

PWMP logo

Neuadd Albert, Llandrindod

Cafodd yr adeilad hwn, sydd bellach yn theatr gymunedol, ei godi gan y Presbyteriaid ym 1896 ar gost o £2,000. Ni allai eu capel drws nesaf ymdopi â'r galw ychwanegol gan dwristiaid Cymraeg eu hiaith a oedd yn Fethodistiaid, felly byddai gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnal yn Neuadd Albert yn ystod yr haf.

Roedd lle i 750 o bobl eistedd ar seddau y gellid eu symud yn y neuadd. Fe'i cynlluniwyd gan Owen Morris Roberts a'i Fab o Borthmadog. Sylwch ar y décor Art Nouveau ar y ffryntiad, gan gynnwys y manylion ar y drysau a’r ffenestri crwm.

Pan gafodd y capel cyfagos ei ailadeiladu ym 1905, cafodd islawr Neuadd Albert ei droi yn ysgoldy’r capel. Cafodd pulpud capel 1870 ei symud i'r neuadd.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddid y neuadd ar gyfer adloniant gan Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, a oedd yn lletya tua 4,000 ddynion yn y dref ar gyfer hyfforddiant. Rhoddwyd  eu cystadlaethau eu hunain i ddynion Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin yn ail eisteddfod flynyddol y dref ar gyfer pobl ifanc ym mis Mawrth 1915, a gynhaliwyd yn y neuadd.

Ym mis Chwefror 1916 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus, gydag adloniant cerddorol, yma i groesawu uned Gymreig Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin i Landrindod. Prif swyddog yr uned, Major Bowle, oedd llywydd eisteddfod pobl ifanc 1916, ac enillwyd gwobr am lefaru gan ddyn o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin o Fanceinion a oedd hefyd yn Rabi Iddewig. Ym mis Ebrill 1916 cododd cyngerdd gan yr uned Gymreig yn Neuadd Albert dros £6 i brynu sigaréts a chysuron eraill ar gyfer milwyr rhiwmatig yn ysbytai ategol Parc y Creigiau.

Dechreuodd aelodaeth y capel Presbyteraidd ostwng ar ôl y rhyfel, ond roedd dyledion adeiladu yn dal ar ôl i’w talu. Ym 1922 cafodd Neuadd Albert ei hailwampio fel theatr fasnachol. Gwerthodd y Presbyteriaid y neuadd yn yr 1950au.

Mae llwyfan y neuadd wedi cael ei throedio gan artistiaid a siaradwyr enwog, gan gynnwys y cyfansoddwr a aned yng Nghaerdydd, Ivor Novello, y digrifwr Tommy Handley, y swffragét Emily Pankhurst a dau o gyn-Brif Weinidogion Prydain, David Lloyd George ac Anthony Eden.

Cafodd y neuadd ei chymryd drosodd gan ymddiriedolaeth elusennol leol. Yn 2007 rhoddwyd prosiect adfer gwerth £115,000 ei roi ar waith, a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a ffynonellau eraill. Mae'r neuadd yn cynnal sioeau theatr ac mae ar gael ar gyfer digwyddiadau cymunedol.

Cod post: LD1 6AA    Map

Gwefan Neuadd Albert

I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i lawr Ffordd Ithon. Trowch i’r dde i mewn i Ffordd Victoria. Parhewch at Ffordd Dyffryn a chroeswch. Mae’r codau QR nesaf wrth fynedfa’r Ysgol Uwchradd
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button