Y Plas, Machynlleth

Y Plas, Heol Aberystwyth, Machynlleth

Roedd Y Plas yn blasty’n eiddo i deulu Marcwis Londonderry. Cyn hynny, enw’r tŷ oedd yn sefyll ar y safle hwn oedd Greenfield ac roedd yn bodoli erbyn 1673. Newidiwyd yr enw gan deulu Londonderry i’r Plas Machynlleth ac ehangwyd y tŷ’n sylweddol.  Mae’n bosib fod peth o’r strwythur gwreiddiol yn rhan o’r adeilad hyd heddiw. Mae’r ffasâd godidog yn dyddio o 1853.

Ymhlith gwesteion sydd wedi ymweld â’r Plas mae’r Brenin Siôr V a’r Arglwydd Randolph Churchill, tad Winston Churchill.

Syth ar ôl cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, cynigiodd yr Arglwydd Herbert Vane-Tempest darn o’r Plas (ei gartref) yn ysbyty, gyda digon o le i wyth milwr iacháu. Yr Arglwydd Herbert oedd is-lywydd Cymdeithas Groes Goch Sir Drefaldwyn yn ystod y rhyfel.

Bu cynnydd yn y trethi i dalu am y rhyfel, oedd yn costio £1 miliwn y dydd i Brydain erbyn diwedd 1914. Ym mis Mawrth 1915 cyhoeddodd yr Arglwydd Herbert y byddai trethi uwch yn golygu na fyddai bellach yn gallu fforddio cadw Cŵn Hela Plas Machynlleth. Felly aeth ffermwyr lleol ati i wneud trefniadau newydd i gadw rheolaeth ar nifer y llwynogod yn yr ardal.

Bu’r Arglwydd Herbert yn helpu trefnu arbrawf, pan blannodd 43 ffermwr betys melys yn ystod 1915, a chaniatáu troi tiroedd Y Plas   er mwyn cynhyrchu bwyd. Bu farw yn namwain trên Aber-miwl ym 1921.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Y Plas yn gartref i ysgol merched, oedd wedi cael eu symud o Lundain.

Ym 1948 rhoddwyd yr ystâd i’r dref i’w defnyddio fel parc cyhoeddus. Daeth yr adeilad yn swyddfeydd Cyngor Rhanbarth Trefol Machynlleth. Cafodd ei ailwampio yn ystod y 1990au ac agorodd fel Celtica, atyniad i ymwelwyr ar thema Geltaidd, a gaeodd yn 2006.

Prynodd Cyngor Tref Machynlleth Y Plas yn 2008. Bellach mae’r adeilad yn cynnwys oriel gelf a siop dan ofal Cynghrair Celfyddydau Dyfi, sefydliad dielw sy’n cefnogi artistiaid a chrefftwyr lleol. Hefyd mae yna fwyty ac ystafelloedd i gynnal cynadleddau, dosbarthiadau a gweithgareddau cymunedol eraill. Ac mae swyddfeydd cyngor y dref ar y lloriau uchaf.

Yn Hydref 2012, defnyddiwyd Y Plas fel canolfan ar gyfer yr ymdrech daer y gymuned i gael hyd i April Jones, y ferch fach 5 oed, a ddiflannodd o’r dref ar 1 Hydref. Cafodd dyn lleol ddedfryd oes am ei llofruddio.

Cod post: SY20 8ER    Map

I barhau ar y daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf ym Machynlleth, ewch allan i erddi’r Plas
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button