Gorsaf Machynlleth

sign-out

Gorsaf Machynlleth

Ar un adeg roedd dwy orsaf ym Machynlleth. Agorodd hon ym 1863 yn sgil cyflawni gwaith peirianneg mawr gan gwmni Rheilffordd Machynlleth a’r Drenewydd i ddod â threnau i’r ucheldiroedd. Am nifer o flynyddoedd, cloddiad 37 metr Talerddig oedd y dyfnaf trwy’r byd. Y diwydiannwr David Davies, o Landinam ger Caersws, oedd yn gyfrifol am orchwylio’r prosiect. Yn ddiweddarach estynnwyd y rheilffordd i Aberystwyth a Phwllheli.

Ystyr enw Machynlleth yw “Gwastadedd Cynllaith”. Ni ŵyr neb pwy oedd Cynllaith. Ym 1201-13 cofnodwyd yr enw fel Machenthleith.

Agorwyd gorsaf rheilffordd-gul Corris ym 1859 ym Machynlleth. Caeodd y rheilffordd ym 1948 ond mae adeilad yr orsaf yn parhau hyd heddiw fel mynedfa i Barc Eco Dyfi, sy’n sefyll ar y tir lle byddai’r llechi o ardal Corris yn cael eu symud o wagenni cul i wagenni safonol.

Ym 1864, ffurfiwyd Cwmni Rheilffyrdd Cambrian trwy gyfuno’r cwmnïau bach oedd wedi bod yn adeiladu rheilffyrdd ar draws Canolbarth Cymru, a gafodd ei gynnwys wedyn ym 1923 gan gwmni Great Western Railway. Prynwyd Rheilffordd Corris gan GWR rai blynyddoedd wedyn.

Ym 1894 awdurdodwyd blwch yng ngorsaf Machynlleth gan reolwr cyffredinol rheilffordd Cambrian lle byddai teithwyr yn gallu gadael hen bapurau newydd  ar gyfer y sawl oedd yn byw yn wyrcws y dref.

Aeth trên dros David Lloyd Jones, 31, oedd yn gweithio yn y sied injan ger yr orsaf, ym mis Hydref 1910, pum mis ar ôl i’w bolisi yswiriant bywyd redeg allan. Cytunodd cwmni Cambrian dalu iawndal o £174 18s i’w weddw, i fagu dau o blant bach.

Aeth rhai o aelodau staff Cambrian oedd yn gweithio ym Machynlleth i ymuno â lluoedd arfog y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn eu plith roedd y glanhawr injan Thomas Edgar Owen, a fu farw yn y Dwyrain Canol ym 1916, a Henry John Thomas, a fu farw yng Ngwlad Belg ym 1918. Cofnodwyd fod Albert White o Bwllheli, oedd yn gyfarwydd i deithwyr fel y clerc tocynnau yng ngorsaf Machynlleth, ar goll yn dilyn Brwydr Gaza ym mis Mawrth 1917. Cadarnhawyd flwyddyn yn ddiweddarach iddo farw.

Cafodd y Siarsiant David Jones, cyn taniwr oedd yn gweithio o orsaf Machynlleth, ddihangfa ffodus yn y Ffrynt ym 1915 wrth geisio atal gwaedu o’i ysgwydd ar ôl cael ei anafu. Cafodd ei daro fan fwled saethwr cudd, ond dim ond un o’i fysedd a gollwyd.

Daeth torf ynghyd yn yr orsaf ym mis Rhagfyr 1914 i groesawu dau deulu (cyfanswm o wyth o bobl) o wlad Belg, oedd yn nwylo’r Almaenwyr, oedd wedi derbyn gwahoddiad i ddod i fyw ym Machynlleth.

Heddiw mae trenau Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru’n gwasanaethu Machynlleth rhwng Birmingham, Aberystwyth a Phwllheli. Yn 2010, dynodwyd yr orsaf yn ganolfan rheoli system signal ERTMS cyntaf y DU, yn seiliedig ar gyfathrebu parhaus rhwng y cyfrifiaduron yma a’r holl drenau ar reilffyrdd Cambrian.

Gyda diolch i’r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ar gyfer gwybodaeth ar enwau lleoedd

Cod post: SY20 8BL    Map

I barhau â’r daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf ym Machynlleth, wrth adael yr orsaf, trowch i’r chwith wrth y brif ffordd. Ewch ymlaen at y gofeb rhyfel, ar eich chwith, lle mae’r ffordd yn gwyro i’r dde
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button