Traeth Niwgwl

Traeth Niwgwl

Yn ôl Gerallt Gymro datgelwyd olion coedwig cynhanesyddol yma yn y ddeuddegfed ganrif. Ar ben gogleddol y traeth gellir gweld blociau a roddwyd yma i rwystro ymosodiad posibl gan y Natsïaid yn y 1940au.

Croesodd Gerallt Draeth Niwgiwl yn 1188 gydag Archesgob Caergaint ar daith bregethu a recriwtio yng  Nghymru ar gyfer y drydedd groesgad. Noda yn ei ddyddiadur i fonion coed hynafol ymddangos ac i lyswennod a physgod gael eu taflu i’r lan yn dilyn storm yn 1171. Roedd y brenin Harri II yn treulio’r gaeaf yn Iwerddon ar y pryd. Roedd gan Gerallt gysylltiad â Thyddewi gerllaw a nododd bod olion bwyell yn amlwg ar y bonion a’u bod mor ddu ag eboni.

Barnai Gerallt mai olion coedwig a dorrwyd adeg llifogydd yr Hen Destament (yr adeg yr adeiladodd Noah ei arch) a welsai. Credir bod olion coedwig sydd wedi goroesi ar Gors Fochno ger y Borth, yng Ceredigion, tua 5,000 o flynyddoedd oed.

Mae bwyell geuog a ddarganfuwyd yn Niwgiwl yn perthyn i gyfnod c. 3,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ar hyd ymyl maes parcio traeth y gogledd mae rhes o flociau concrit sylweddol. Fe’i gosodwyd yno er mwyn rhwystro trafnidiaeth filwrol rhag gyrru o’r traeth. Digwyddodd hynny ym mlynyddoedd cynnar yr Ail Ryfel Byd, pan bryderai’r awdurdodau Prydeinig am ymosodiad posibl gan yr Almaenwyr ar Orllewin Cymru. Byddai traeth Niwgiwl wedi bod yn lleoliad  delfrydol i ddadlwytho tanciau ac offer tebyg o longau.

Enw’r lle:

Cofnodwyd Niwgiwl fel Nivegal, Niwegal a Neugol yn y 12ed ganrif. Mae’n bosibl bod yr enw’n tarddu o’r Wyddeleg. Mae’n bosibl bod yr ail elfen yn dod o’r hen Norseg geil (sef ceunant neu lwybr cul), ac yn cyfeirio at y ffordd i’r traeth.

Diolch i Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Cod post: SA62 6AS    Map
 

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button
button_tour_wales-coast-path-W Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label button_nav_5W-WENavigation next button