Gwesty’r White Lion, Glanyfferi

button-theme-crimeGwesty’r White Lion, Glanyfferi

Meddai’r gwesty hwn ar safle ardderchog yn y dyddiau hynny pan oedd y fferi i Lansteffan yn ddolen bwysig ar y llwybr tramwy. Mae’r gwesty yn wynebu’r ffordd ganoloesol o lanfa’r fferi i Gydweli. 

Mae’n agos at orsaf Glanyfferi yn ogystal, ar lwybr y rheilffordd a gynlluniwyd gan Isambard Kingdom Brunel ar gyfer Rheilffordd De Cymru (SWR). Cafodd eu hagor yn 1852. Hanner canrif yn ddiweddarach cynhaliwyd gwledd yn y White Lion i ddathlu cyfnod gwasanaeth o bum mlynedd ar hugain gan yr orsaf feistr F M Owen i’r Great Western Railway yng Nglanyfferi. (disodlwyd y SWR gan y GWR yn 1863). 

Yn Rhagfyr 1899 trowyd y morwr Andrew McGill o’r White Lion am yfed gormod. Ynghynt y diwrnod hwnnw, cawsai ei achub o Craigwinnie, barque o’r Alban a ddrylliwyd ger Cefn Sidan. Daeth ei ddiwrnod anturus i ben pan gafodd ei gyhuddo gan y Rhingyll Thomas Davies o fod yn ‘drunk and disorderly’! Pan ymddangosodd gerbron y llys, dangosodd yr ynadon ychydig o gydymdeimlad ag ef a datgan  ei fod yn llawen iawn, mae’n siwr, iddo gael ei achub, ond gorchmynnwyd iddo dalu dirwy o 2s 6d ynghyd â chostau.

Yn 1901 achubodd bad achub Glanyfferi bymtheg o’r criw o ddau ar bymtheg o fwrdd yr Australia, llong o Norwy. Cawsant gyfle i adennill eu nerth yn y White Lion. Cafodd y meistr, Herman Jebe, anafiadau mewnol yn ogystal â thorri ei fraich. Bu’n gaeth i’w wely yn y White Lion, tra roedd ei long yn datgymalu a’r llanw yn gwasgaru’r cargo o lo Cymreig ar hyd traethau cyfagos. 

Y diwrnod y dychwelodd gweddill y morwyr i Gaerdydd, buon nhw’n sefyll ar y sgwar y tu allan i’r gwesty gan fonllefain eu diolch i’r trigolion lleol am eu croeso. Ryw fis wedi iddo gael ei achub gadawodd y Capten Jebe y gwesty gyda’i wraig er mwyn dychwelyd i Norwy. Cyflwynwyd rhodd o £11 iddo wedi ei gasglu gan y bobl leol.

Yn ôl yr hanesydd lleol, Beryl Hughes, torrai’r bardd Dylan Thomas ei siwrnai rhwng Abertawe a Chaerfyrddin a galw am ddiod yn awr ac yn y man yn y White Lion a thafarnau eraill y pentref. Roedd ganddo deulu yn byw yn yr ardal, ar y naill ochr a’r llall i’r aber. 

Yr enw lle:

Glanyfferi - ‘(lle) ger y fferi’ yw ystyr yr enw. Cysylltai’r fferi ochr ddwyreiniol aber afon Tywi â Llansteffan ar yr ochr orllewinol. Mae’r ffordd i’r de-orllewin yn arwain at Gydweli ac yn 1538 fe’i nodir Ferye weye.

Gyda diolch i'r Athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Cod post: SA17 5RW    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button