Nant Ffrancon: Syllfan ger yr A5

Nant Ffrancon: Syllfan ger yr A5

nant_ffranconMae’r dyffryn o’ch blaenau yn enghraifft glasurol o ddyffryn rhewlifol. Efallai ichi ei weld rywdro yn ystod gwersi daearyddiaeth yn yr ysgol.

Mae’r hen lun, o’r 1890au, yn dangos yr olygfa i lawr y dyffryn o’r creigiau islaw Pont Pen y Benglog. Mae’r A5 ar y bryn ar y dde.

Daeth yr Oes Iâ ddiwethaf i ben ryw 10,000 o flynyddoed yn ôl. Dyna’r adeg y llithrodd rhewlif ar hyd y dyffryn hwn - a thorri llwybr sef o’r chwith i’r dde o’r syllfan hon. Wrth iddo gilio o’r mynyddoedd i gyfeiriad y môr, torrodd gwys drwy’r creigiau gan unioni’r dyffryn a’i ledu’r.

Pan gynhesodd yr hinsawdd, toddodd y rhewlif. Ffurfiwyd llyn ar lawr y dyffryn, am fod yr ucheldir gerllaw Bethesda wedi caniatáu cronni peth o’r dŵr. Yn raddol llanwyd y llyn â gwaddodion a gludwyd o’r mynyddoedd cyfagos gan ddŵr glaw ac eira tawdd. Dyma’r gwaddod a greodd lawr gwastad y dyffryn; ac mae amaethwyr yn dal i werthfawrogi’r pridd ffrwythlon hwn mewn ardal lle y mae’r rhan fwyaf o’r tir naill ai’n graig neu’n rhostir

Mawr yw ein dyled i Thomas Telford am fachu’r olygfa hon ar ein cyfer ni. Ef oedd yn gyfrifol, ddechrau’r 19eg ganrif, am adeiladu’r ffordd a elwir bellach yn ffordd yr A5. Bryd hynny roedd cerbydau’n cael eu tynnu gan geffylau. Sicrhaodd ef fod y ffordd yn esgyn yn esmwyth o Fethesda i Lyn Ogwen. Mewn rhai mannau, a’r fan hon yn un ohonyn nhw, golygai hynny godi muriau cynhaliol sylweddol er mwyn cynnal y ffordd ar ochr y bryn.

Beth yw ystyr Nant Ffrancon? Yn 1415 y ffurf oedd ‘Nant frankon’. Cyfeiria ‘nant’ at ffrwd. Mae ‘Ffrancon’ yn ôl pob tebyg yn tarddu o’r Hen Saesneg franca sef gwaywffon; fe’i benthyciwyd i’r Gymraeg a ffurfio’r lluosog ‘ffrancon’. Gallai’r ffrancon gyfeirio at y ffrydiau sy’n arllwys dros lethrau serth y dyffryn.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Map

Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button