Cofeb ffoadur o Wlad Belg, Y Rhyl

Cofeb ffoadur o Wlad Belg, Y Rhyl

Dadorchuddiwyd y gofeb hon yn Ardd Goffa’r Rhyl yn 2015 er cof am Franciscus de Roover, dyn o Wlad Belg a fu farw oherwyd "calon toredig" yn y Rhyl ar ôl i’r Almaenwyr gipio ei famwlad. Bu’r dref yn hafan i mwy na 50 o ffoaduriaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn 1914, daeth oddeutu 250,000 o Felgiaid i'r DU ar ôl i luoedd yr Almaen beledu eu trefi. Yn Aarschot, yn rhanbarth Fflandrys, lladdwyd mwy na 170 o sifiliaid – y rhan fwyaf ohonynt fel cosb am i gyrnol Almaeneg gael ei saethu. Mae rhai haneswyr yn credu iddo gael ei ladd gan ei ochr ei hun – roedd arwyddion o miwtini ymysg ei ddynion.

Photo of refugee family in RhylGweddw a gwneuthurwr clocsiau yn Aarschot oedd Franc de Roover. Cafodd ei ddal yn garcharor gan yr Almaenwyr am ychydig. Ar ôl cael ei ryddhau, teithiodd gyda'i deulu i'r Rhyl, lle y cawsant gartref yn 2 East Parade gan bwyllgor ffoaduriaid y dref.

Ni lwyddodd Franc i anghofio’r erchyllterau a welodd yn Aarschot. Bu farw yn Y Rhyl ar 19 Chwefror 1915. Daethpwyd o hyd i’w gorff gan ei fab 13-mlwydd-oed, Marcel, a geisiodd yn ofer i’w ddeffro. Daeth cwest Franc i’r casgliad ei fod wedi marw o blinder a phoen meddyliol, yn dilyn sioc. Disgrifiodd y papurau newydd ef fel "The Broken-hearted Belgian”.

Claddwyd Franc mewn bedd cyffredin ym Mynwent Maeshyfryd, Ffordd Dyserth, Y Rhyl. Talodd y pwyllgor ffoaduriaid am ei angladd. Mae’r llun ar y dde yn dangos ei deulu yn fuan wedi ei farwolaeth. Danfonwyd y llun i berthnasau.

Roedd y pwyllgor wedi gweithio'n galed i godi arian i ddodrefnu'r tŷ yn East Parade a darparu bwyd a dillad ar gyfer y ffoaduriaid. Cawsant eu cynorthwyo gan chwiorydd Ysgol Gwfaint y Santes Fair.

Photo of Belgian refugees arrival in RhylI ddechrau, daeth 22 o ffoaduriaid i’r Rhyl. Dilynodd 30 arall yr wythnos ganlynol. Ar ôl cyrraedd, fe'u croesawyd yn yr orsaf rheilffordd gan filoedd o bobl (gweler y llun, chwith). Safai milwyr o Frigâd “Pals” Gogledd Cymru yn rhesi ar hyd y Stryd Fawr i anrhydeddu’r ffoaduriaid. Rhoddodd blant lleol fagiau o felysion, wedi’u haddurno â rhubanau, i’r ffoaduriaid a chwifio baneri a fflagiau yr oeddynt wedi’u gwneud. Rhoddodd cadeirydd y cyngor, y Cynghorydd F Phillips, araith o groeso, a darparodd y Rhyl and Potteries Motor Company siarabáng i gymryd y ffoaduriaid o'r orsaf i'w cartref newydd.

Gyda diolch i Antonio Vitti, o Ganolfan Groeso Y Rhyl

Map
 


Gwefan am y ffoaduriaid yn Y Rhyl – gan Ganolfan Groeso Y Rhyl
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button