Coed Coffa’r Groes Goch, Llandrindod

PWMP logo

Coed Coffa’r Groes Goch, Llandrindod

Plannwyd y rhes o goed fan hyn, sydd ar ongl gywir i Princes Avenue ym 1946 i goffáu ymdrechion cymunedau gwledig Prydain i godi arian at y Groes Goch. Plannwyd naw coeden ar ffurf groes. Bu’n rhaid torri dwy goeden dderw lawr yn 2010 gan eu bod yn dioddef o haint ffyngaidd ac fe blannwyd coed newydd yn eu lle.

Mae plac metal ger y ffordd yn cofnodi’r £9m a godwyd gan gymunedau gwledig Prydain at Gronfa Amaeth y Groes Goch yn yr Ail Ryfel Byd. Cyfrannodd Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed £35,467 - sy’n gyfwerth ag £1.5m mewn arian heddiw!

Cafodd y Gronfa Amaeth ei chefnogi gan fwy na 18,000 o bwyllgorau codi arian mewn ardaloedd gwledig. Roedd y cynlluniau’n cynnwys ardollau gwirfoddol roedd cynhyrchwyr llaeth yn eu talu’n ogystal â’r cynllun casglu “ceiniogau gwledig”. Trefnai llawer o ysgolion “glybiau winwns” ble roedd plant yn gwerthu winwns yr oeddynt yn eu tyfu ar gyfer y lluoedd arfog ac yn rhoi’r elw i’r gronfa honno.

Roedd trigolion Sir Faesyfed hefyd yn codi arian at y Groes Goch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mis Rhagfyr 1916, er enghraifft, cynhaliodd ffermwyr ardal Llandrindod ocsiwn yn y Grand Pavilion a gododd mwy na chan punt (cyfwerth â £8,000 mewn arian heddiw), yn bennaf at Y Groes Goch. Aeth y gweddill i’r Groes Las, a fu’n gofalu am geffylau rhyfel clwyfedig.

Roedd y Groes Goch yn rhedeg ysbytai cynorthwyol yn Llandrindod yn ystod y rhyfel. Trafodwyd cynlluniau ar gyfer yr ysbyty cyntaf ar 7 Awst 1914, y diwrnod cyn i’r rhyfel ddechrau. Ym 1915 penderfynodd Y Groes Goch symud ei hysbyty yn Llandrindod i westy ffynnon yr Highland Moors.

Sefydlwyd Y Groes Goch yn Y Swistir ym 1863 gyda’r bwriad o roi cymorth amhleidiol i filwyr a oedd wedi’u hanafu. Lansiwyd y Gymdeithas Genedlaethol Brydeinig ar gyfer Cymorth i’r Glwyfedig mewn Rhyfel ym 1870. Cafodd ei hailenwi’n Y Groes Goch Brydeinig ym 1905.

Map