Cerdyn post Bae Colwyn: Y promenâd Fictoraidd

CCBC logo for Post cards from colwyn bay tour sign-out

Cerdyn post gwenithfaen: Y promenâd Fictoraidd

Image of tram granite postcard

Roedd y tramiau yn rhedeg ar hyd stryd fawr Bae Colwyn, Ffordd Conwy, ac yna trwy'r maestrefi gorllewinol cyn disgyn i lawr ac ymuno â Phromenâd y Rhos ger Pwynt Rhos - y pentir sydd i’w weld yn y pellter oddi yma. Roedd y tramiau’n dringo’n serth cyn disgyn trwy Gaeau Bodafon i Landudno.

Agorwyd yr adran Llandrillo-yn-Rhos i Landudno yn 1907, gydag estyniad Bae Colwyn yn agor yn 1908. Cafodd y trac ei ymestyn tua’r dwyrain i Hen Golwyn yn 1915 ond caeodd yr adran hon yn 1930.

Photo of Colwyn Bay street with tram

Enw swyddogol y tramffordd oedd Llandudno & Colwyn Bay Electric Railway. Nid oedd y teitl mawreddog yn cyd-fynd â chyllideb y cwmni. Roedd nifer o’r tramiau yn rhai ail-law o drefi eraill gyda thramffyrdd cul. Roedd rheiliau L&CBER yn 107cm (3troedfedd 6 modfedd) ar wahân.

Roedd y tramiau’n boblogaidd gyda phobl ar wyliau. Roedd golygfeydd gwych i’w gweld, yn enwedig o'r tramiau dec-dwbl top-agored. Roedd gan bedwar o’r tramiau resi o feinciau heb ochrau na tho, ac fe’u gelwir yn “raciau tost”!

Mae’r cerdyn post yn dangos rhan o flaen tram 23, tram dec dwbl hwylus a brynwyd yn 1946 gan Darwen Corporation, Sir Gaerhirfryn. Roedd ganddo bar o lampau yn lle'r un lamp arferol.

Caeodd y cwmni’r tramffordd yn 1956 a chanolbwyntio ar redeg bysiau mewn cystadleuaeth â chwmni anferth Crosville.

Yn 2007 fe orffennodd Cymdeithas Tramffordd Llandudno a Bae Colwyn adnewyddu corff tram o Bournemouth, oedd yr un fath â 10 dec dwbl a brynwyd gan L&CBER o Bournemouth yn 1936. Mae’r tram yn cael ei arddangos mewn digwyddiadau lleol. Nod y gymdeithas yn y pen draw yw rhedeg tramffordd arddangos yn yr ardal.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanesyddol Llandudno a Bae Colwyn

Cod post: LL29 8PT

Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post. 

Postcards from Colwyn Bay Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button