Baneri Mawrion Morgannwg, Gerddi Sophia

Glamorgan county cricket club logo

Mae’r ardal hon o’r SSE SWALEC, o dan Ganolfan y Cyfryngau ac eisteddle Heol Y Gadeirlan, yn dathlu cyflawniadau rhai o chwaraewyr gorau Morgannwg. Edrychwch i fyny i weld baneri’r chwaraewyr. Gallwch weld oriel luniau o’r chwaraewyr o dan y testun hwn.

Yn eu plith mae:

  • Alan Jones (chwaraeodd dros Forgannwg 1957 – 1983) a sgoriodd y nifer fwyaf o rediadau mewn gyrfa (34,056)
  • Don Shepherd (chwaraeodd 1950-1972) – y nifer fwyaf o wicedi mewn gyrfa (2,174)
  • Peter Walker (chwaraeodd 1950-1972) – y nifer fwyaf o wicedi mewn gyrfa (2,174)
  • Matthew Maynard (chwaraeodd 1985-2005) – y nifer fwyaf o gan rhediadau mewn gyrfa (54)
  • Eifion Jones (chwaraeodd 1961-1983) – y nifer fwyaf o ollyngiadau wiced (913)
  • Hugh Morris (chwaraeodd 1981 - 1997) - y nifer fwyaf o rediadau mewn un tymor (2,276 yn nhymor 1990)

Ond nid gêm i ddynion yn unig yw criced, mae hefyd dimau merched llwyddiannus yn yr ardal. Mae tîm merched Lloegr wedi chwarae yma sawl gwaith. Yn wir, yn 2015 cyfarfu dynion a merched Lloegr eu gwrthwynebwyr o Awstralia mewn dwy gêm gefn-wrth-gefn Twenty20, gyda'r Saeson yn fuddugoliaethus yn y ddwy.

Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg

Gwefan Awyr Agored Caerdydd

Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap

 

Cliciwch lun i weld fersiwn fwy ohono. Cadwch y llygoden dros ddelwedd fawr i lywio’r oriel luniau.

Glamorgan cricket club  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

 

Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 3 (coch) ar y map isod.

 cricket-walk-map