Eglwys Sant Dyfan a’r ffynnon, Llandyfân

Eglwys Sant Dyfan a’r ffynnon, Llandyfân

Mae’r safle wedi ei defnyddio ar gyfer addoliad Cristnogol ers canrifoedd. Yr hyn sy’n eithriadol yw i’r enwad newid o fod yn Anglican i fod yn Anghydffurfiol ac wedi hynny yn Anglican drachefn. 

Mae’n bosibl i’r capel cyntaf ar y safle gael ei godi yn llety i gleifion o ymwelwyr a obeithiai am adferiad gan ddŵr o’r ffynnon yn y fynwent. Yn ôl rhai ffynonellau hanesyddol, byddai’r dŵr yn cael ei yfed o benglog dynol! 

Yn 1786, cafodd gweithwyr hyd i esgyrn tri pherson. Wrthi’n paratoi seiliau odyn galch roedd y gweithwyr a bu dyfalu ar y pryd am safle gladdu yma ar ryw adeg.

Ddechrau’r ddeunawfed ganrif, roedd chwaraeon a dawnsio yn boblogaidd ar y tir o gwmpas y ffynnon. Ataliwyd hynny yn y pen draw gan yr Arglwydd Mansel. Beth, tybed, fyddai barn Howell Harris, y pregethwr Methodist enwog, petai wedi gweld y fath rialtwch yn ystod ei ymweliadau ef â Llandyfân, ganol y ddeunawfed ganrif? Dyma’r adeg y cafodd yr Anghydffurfwyr ganiatâd i ddefnyddio’r adeilad a fu’n gapel anwes i eglwys y plwyf, Llandybïe.

Trowyd y ffynnon yn fedyddfa a gosod grisiau i arwain at y dŵr. Bedyddiwr a fu’n pregethu yma oedd Zorobabel Davies a agorodd ysgol yn y plwyf cyn ymfudo gyda’i deulu i Awstralia yn 1852. Gwnaeth arian yn y mwynfeydd yno cyn dod yn athro mewn ysgol wladol yn Pleasant Creek, Victoria, c. 1857. Sefydlodd gapel yno gan bregethu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac roedd yn berchen ar bapur newydd lleol yn ogystal. Bu farw yn 1877, ac yntau’n 71 oed.

Ailgychwynnodd gwasanaethau Anglicanaidd yn yr eglwys yn 1838 a gorfu i’r Anghydffurfwyr a oedd yn weddill, symud i gapel newydd. Cafodd yr eglwys ei hailadeiladu ganol y 1860au, yn bennaf trwy haelioni Arglwyddes Dinefwr a Caroline du Buisson o Glynhir (gerllaw Llandyfân). Yn ôl yr hanes roedd Caroline wedi gwneud ffortiwn yn Llundain trwy fanteisio ar wybodaeth a oedd gan y teulu hwn, yn anad neb arall ym Mhrydain ar y pryd, am drechu Napoleon yn Waterloo.

Cynlluniwyd yr eglwys gan Richard Kyrke Penson, syrfewr Sir Gaerfyrddin. Ymhlith y gwaith arall a gyflawnwyd ganddo yn yr ardal mae rhes o odynau calch hardd ger Llandybïe. Ef oedd perchen yr odynau ac yn ddiweddarach bu’n byw gerllaw.

Yn 1897-98, wedi sawl blwyddyn o gynhenna, tynnwyd dŵr o darddle’r ffynnon er mwyn darparu dŵr yfed glân i Llandybïe. Roedd y ficer am i’r eglwys dderbyn tâl am y dŵr a oedd yn cael ei dynnu o’r fynwent.  Penderfynodd y cyngor tref dyllu y tu allan i’r fynwent gan geisio tynnu’r dŵr o fan arall!

Am yr enw Llandyfân:
Mae’r eglwys erbyn hyn wedi ei chysegru i Dyfan ond mae’r ffurfiau hanesyddol ar yr enw o blaid y ffurf Tyfân, â’r prif bwyslais ar y sillaf olaf. Mae’r ffurf Llandyfaen (1752) yn digwydd yn ogystal. Mae’n ymddangos mai ‘gorgywiro’ sy’n gyfrifol am y ffurf -faen gan dybio fod â yn cynrychioli -ae- ar lafar. Ni welwyd cofnod am sant o’r enw hwn. Mae enw nant sy’n codi gerllaw, sef Gwyddfaen, hefyd yn dangos ôl ‘addasu’.

Gyda diolch i Terry Norman a Brian Hopkins. Hefyd i'r Athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am y cyfieithad a'r nodiadau am yr enw lle

Cod post: SA18 2TU