Cartref olaf yr Iarlles Haig, Bangor

button-theme-evacCartref olaf yr Iarlles Haig, Bangor

Ar un adeg roedd tir ar y nail ochr a’r llall i Ffordd Belmont yn ffurfio ystâd Glynn, lle treuliodd Dorothy Cowntes Haig ei dyddiau olaf. Roedd llawer o bobl yn beio ei gŵr, Field Marshal Douglas Haig, am rai o waedlifau gwaethaf y Rhyfel Byd Cyntaf.

Portrait of Earl and Countess Haig
Iarll a Iarlles Haig, 1922
© National Portrait Gallery, London

Prynodd Walter Warwick Vivian ystâd Gorphwysfa ym 1902, pan ymddeolodd fel rheolwr chwarel llechi Dinorwig. Fe’i hail-enwodd yn Glyn ar ôl cartref y teulu yng Nghernyw (Glynn) lle cafodd ei fagu. Roedd ei dad yn Arglwydd Raglaw Cernyw ac wedi priodi aelod o deulu Panton o Blas Gwyn, Pentraeth, ym 1841.

Ym 1907 ymwelodd Constance, Duges Westminster â Walter yn Glyn. Cafodd y ddau ddirwy o £5 yr un (dros £600 heddiw) am yrru'n beryglus yn ystod taith i Abermaw. Gwadodd iddi yrru dros 24mya trwy Ddyffryn Ardudwy. Honnodd nad oedd y cyflymder yn fwy na 12mya, mai dim ond yn yr ail gêr yr oedd hi a bod ei Mercedes 60hp wedi codi mwy o lwch na cheir eraill, gan greu’r argraff ei bod yn mynd yn gyflymach nag yr oedd!

Roedd nithoedd Vivian, efeilliaid Dorothy a Violet, yn forynion anrhydedd i'r Frenhines Victoria a'r Frenhines Alexandra. Ym 1905 priododd Dorothy (yn y llun ar y chwith) yr Uwchfrigadydd Douglas Haig yng nghapel preifat Palas Buckingham – priodas gyntaf unrhyw gwpl yno y tu allan i'r teulu brenhinol. Mynychodd y Brenin Edward VII a'r Frenhines Alexandra.

Daeth Douglas yn Bencadlywydd y Byddinoedd Prydeinig yn Ffrainc a Fflandrys ym 1915, tair wythnos wedi iddo ymweld â’i wraig a’u plant yn Glyn, lle roeddent yn aros. Ar ôl y rhyfel cafodd ei greu yn Iarll Haig. Bu farw ym 1928. Rhennir barn dros ei record amser rhyfel.

Portrait of Walter Warwick Vivian
Walter Warwick Vivian, 1931
© Royal Collection Trust / Her
Majesty Queen Elizabeth II 2021

Cefnogodd Dorothy’r Lleng Brydeinig, a sefydlodd ei gŵr, ac roedd yn “ymladdwr di-ofn wrth amddiffyn cof ei gŵr”. Ail-fodelwyd ei gerflun yn Whitehall dair gwaith oherwydd ei beirniadaeth, ond fe ddatganodd y fersiwn derfynol yn afluniaidd (“monstrous”) yn y diwedd!

Condemniodd honiadau am ei gŵr yng nghofiant David Lloyd George yn 1935 fel ymosodiad dastardaidd. Ymddangosodd ei llyfr ei hun am ei gŵr, The Man I Knew, ym 1938.

Cyn yr Ail Ryfel Byd, symudodd Dorothy a'i dwy nyrs i Glyn i fod gyda'i hewythr a'i chwaer. Bu farw yma ar 17 Hydref 1939, yn 60 oed. Bu farw Walter yma ym mis Medi 1943, gan adael y rhan fwyaf o'i ystâd i Violet, perchennog Cestyll, ger Cemaes.

Ychydig cyn y rhyfel, roedd y porthdy wrth fynedfa'r ystâd – heddiw yn wynebu'r briffordd a Llwybr Arfordir Cymru – yn gartref i'r prif arddwr Harold Horn, ei deulu a thri o blant faciwî: Mary K Murphy o Melksham, Wiltshire; a Lesley a Mary Parsons, o Lundain o bosibl.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House

Cod post: LL57 2EZ    Map