Gweddillion Tŷ Tan yr Allt ger Aberdaron

Gweddillion Tŷ Tan yr Allt ger Aberdaron

Yma wrth ymyl Llwybr Arfordir Cymru fe welwch olion Tŷ Tan yr Allt, y tŷ ar ben yr all fôr  a ddisgrifiwyd gan y Prifardd Cynan yn un o’i gerddi enwocaf.

I wrando ar yr Athro Gerwyn Williams yn darllen y gerdd, pwyswch yma:

Ganwyd Cynan yn 1895 ac fe’i magwyd ym Mhwllheli, cewch fwy o wybodaeth ar ein tudalen am ei fan geni. Pan ysgrifennodd ei gerdd enwog Aberdaron yn y 1920au, roedd Tŷ Tan yr Allt yn gartref i ddwy ddynes, un ohonyn nhw’n wniadwraig.

Old photo of Ty Tan yr Allt
Tŷ Tan yr Allt © Sioned O'Connor

Mae papurau Cynan yn cynnwys cerdyn post gyda llun – a ddangosir yma – o Dŷ Tan yr Allt gyda llawysgrifen Cynan ei hun ar y cefn yn egluro mai dyma’r tŷ unig y cyfeiriodd ato yn y gerdd Aberdaron.

Mae gan y gerdd bedwar pennill, yn aml wedi'u crynhoi'n ddau. Mae’r gerdd yn disgrifio awydd y bardd i ymddeol yn y pen draw i fwthyn anghysbell, heb ddim o’i flaen ond creigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr. Mae'n dychmygu sut y byddai byw yno yn ailgynnau emosiynau a deimlai yn ei ieuenctid. Mae'r gerdd wedi'i gosod i gerddoriaeth sawl gwaith ac efallai y caiff ei ddehongli fel mynegiant o hiraeth.

Fodd bynnag, fe luniodd Cynan y gerdd fel ymosodiad dychanol ar fardd hŷn a oedd wedi ei feirniadu ef, a beirdd ifanc eraill, mewn erthygl papur newydd yn 1923. Tybir bod Cynan yn digwydd bod yn Aberdaron pan ddarllenodd yr erthygl. Mae tair pennill cyntaf y gerdd yn agor gyda’r llinell “Pan fwyf yn hen a pharchus” – ac yn cysylltu hynny gyda bod yn ariannog, yn ddideimlad a thu draw i feirniadaeth.

Photo of reverse of postcard with Cynan's handwriting
Llawysgrifn Cynan ar y cerdyn post © Sioned O'Connor

Roedd pobl yn dal i fyw yn y tŷ ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yn 2020 roedd Mary Roberts, un o drigolion Aberdaron, yn cofio cael ei gwahodd i de prynhawn gyda’r athrawes ysgol Nela Evans yn Nhŷ Tan yr Allt ar ddiwedd y 1940au. Roedd y te yn cynnwys brechdanau o domato a siwgr !

Dywedir fod Cynan, yn ddiweddarach yn ei fywyd, wedi cyfleu ei fod wedi bod eisiau prynu’r tŷ ond nad oedd ganddo ddigon o arian fel gweinidog gyda’r Methodistaid. Yn y diwedd  cafodd y tŷ ei brynu gan ddiwydiannwr cyfoethog o Loegr. Mae'r adfeilion, a'r tir  yma bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn y llun ar yr hen gerdyn post fe allwch gael cipolwg ar y pier (ar y dde, tua’r canol) a adeiladwyd ar draws traeth Aberdaron ar gyfer y gwaith trymfwyn (“barytes”) gerllaw.

Gyda diolch i'r Athro Gerwyn Wiliams, o Brifysgol Bangor, Glenys Jones a Sioned O’Connor, ac i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad 

Gweld Map Lleoliad

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button