Cymraeg Site of Colwyn Bay Hotel

Safle’r Colwyn Bay Hotel

Saif Princess Court ar safle’r Colwyn Bay Hotel, a oedd yn gartref i bencadlys y Weinyddiaeth Bwyd yn y 1940au.

photo_of_colwyn_bay_hotelAdeiladwyd y gwesty (gweler y llun ar y dde) ym 1873 ac fe'i cynlluniwyd gan John Douglas (1830-1911), a gynlluniodd hefyd Eglwys Sant Paul ac eglwysi eraill yn yr ardal. Dymchwelwyd y gwesty yn 1974-5 i wneud lle ar gyfer yr adeilad presennol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd gan Arglwydd Woolton, y Gweinidog Bwyd, ei swyddfa yma. O dan yr un to yr oedd adrannau weinyddiaeth yn cynnwys yr adran a oedd yn recriwtio’r staff ar gyfer yr holl adrannau eraill, hefyd y Cocoa & Chocolate Wartime Association Department a’r adran gyfathrebu. Roedd negeseuon côd o Lysgenadaethau Prydain trwy gydol y byd yn dod i’r adeilad ac yn cael eu dosbarthu gan negeswyr ar feiciau i'r adrannau weinyddiaeth eraill yn y gwestai lleol. Nid oedd dim gwres canolog a chynheswyd y swyddfeydd gan danau agored a gynt wedi’u defnyddio i gynhesu'r ystafelloedd gwely yn y gwesty.

Cynhaliwyd arbrofion yng ngheginau’r gwesty i ddod o hyd i ffyrdd o wneud bwyd derbynniol allan o dameidiau a fyddai’n cael eu gwrthod fel arfer. Ymddangosodd rhai o'r canlyniadau llai trychinebus mewn llyfryn gan y Weinyddiaeth, ‘Food Facts for the Kitchen Front’. Yn eu plith yr oedd rysáit ar gyfer ymennydd ar dost, gan ddefnyddio saws persli i guddio’r darnau o ymennydd.

O’r gwesty roedd dirprwy gadeirydd cwmni siocled Rowntrees yn rhedeg yr is-adran coco a siocled. Un o gynhyrchion yr is-adran oedd y Cynllun Pwyntiau Personol (Personal Points Scheme), a awdurdodwyd gan y prif weinidog Winston Churchill yn 1942 i sicrhau bod pawb yn cael cyfran gyfartal o ddanteithion, gan gynnwys y bobl a oedd yn rhy brysur yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau a swyddi hanfodol eraill i neilltuo amser ar gyfer hela melysion.

Parhaodd y weinyddiaeth i ddefnyddio adeilad y gwesty tan 1953, pan ddychwelodd y staff i gartref y weinyddiaeth yn Guildford, Surrey.

Gyda diolch i Graham Roberts o Gymdeithas Ddinesig Bae Colwyn

Côd post: LL29 8PT    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button
Dig for Victory Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button