Safle Pier Victoria, Bae Colwyn

Safle Pier Victoria, Bae Colwyn

colwyn_bay_pierYma y safai Pier Victoria. Yn wahanol i eraill ar arfordir Gogledd Cymru, nid oedd y pier hwn wedi wedi'i gynllunio fel man glanio ar gyfer llongau teithwyr. Fe'i crëwyd fel man adloniant.  Roedd y pier yn llai na 100 metr o hyd pan agorodd yn 1900. Roedd arno bafiliwn gyda theatr 2,500-sedd, siopau a bwyty. Cymerodd Adelina Patti, soprano operatig byd enwog, ran yn y perfformiad agoriadol.

Ymestynwyd y pier i 229 metr o hyd ac agorwyd y Bijou Theatre, gyda 600 sedd, yn 1916. Dinistriwyd y pafiliwn gan dân ym 1922. Adeiladwyd un arall yn ei le ym 1923, ond llosgodd ym 1933. Ddeufis yn ddiweddarach, digwyddodd yr un peth i’r Bijou Theatre.

colwy_bay_pierYn y pafiliwn terfynol, a agorwyd yn 1934, roedd nodweddion Art Deco a murluniau gan Eric Ravilious (1903-1942) a Mary Adshead (1904-1995). Cafodd lawer o'r nodweddion hynny eu dinistrio neu eu cuddio ar ôl y rhyfel gyda gwaith adnewyddu. Ymhlith y diddanwyr a perfformiodd ar y pier yn y cyfnod hwn oedd y digrifwyr Ken Dodd a Morecambe & Wise, a’r cantorion Harry Secombe ac Elvis Costello.

Roedd y pier o dan fygythiad o gael ei ddymchwel ar wahanol adegau ers y 1980au canol, ac roedd ar gau i’r cyhoedd am flynyddoedd cyn i’r rhan ogleddol syrthio mewn drycin ym mis Chwefror 2017. Datgymalwyd y strythur yn 2018, gyda’r prif ddarnau yn cael eu cadw. Achubwyd y murluniau hefyd.

Côd post: LL29 8HH    Map

Wales Coastal Path Tour Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button