Taith Harri Tudur i Faes Bosworth

Taith Harri Tudur i Faes Bosworth

Yn dilyn ei fuddugoliaeth ym mrwydr Bosworth, sefydlodd Harri Tudur linach a newidiodd bywyd ym Mhrydain yn ddirfawr – a chychwyn hyn i gyd oedd ei daith fentrus, gyfrwys drwy Gymru.

Glaniodd Harri o alltudiaeth yn Ffrainc ym Mill Bay, Sir Benfro yn Awst 1485. Llwyddodd i ddrysu’r awdurdodau trwy gymryd llwybr annisgwyl drwy ganolbarth Cymru er mwyn cyrraedd Lloegr. Bellach fe allwch chi ddilyn ei lwybr, naill ai’n bersonol neu’n rhithiol trwy ddilyn ein taith o leoliadau QR. Wedi ichi ddarllen y testun, dewiswch yr eicon ‘Nesaf’ a ddangosir ger baner y daith. Bydd yn eich tywys at y cam perthnasol nesaf.

Bydd y testun sy’n disgrifio’r daith yn ceisio gwahaniaethu rhwng y ffeithiau dilys am daith Harri a’r chwedloniaeth sydd wedi tyfu o’i gwmpas. Mae tystiolaeth ddogfennol i brofi bod Harri wedi teithio drwy Hwlffordd, Aberteifi a Machynlleth cyn cwrdd â’i gymheiriaid newydd yng Nghefn Digoll, crib ger y ffin â Lloegr. 

Wedi canrifoedd maith mae’n amhosib profi na gwrthbrofi storïau sy’n honni i Harri alw mewn amryw leoedd eraill. Efallai i rai o’r rhain gael eu creu yn fuan wedyn gan deuluoedd a oedd yn awyddus i frolio’u pwysigrwydd; mae eraill yn ffrwyth dychymyg haneswyr; mae eraill, o bosibl, yn hollol wir!  

I ymuno â’r daith ar lein, dewiswch leoliad o’r rhestr isod:

 

Gallwch weld map o'r lleoliadau ar hyd y llwybr yma

HiPoints ar Daith Harri Tudur i faes Bosworth

 

 

 

HiPoints eraill sy'n bethnasol i hanes Harri Tudur

Gogledd Cymru

  • Penmynydd, Sir Fȏn – sedd y Tuduriaid family, gyda delw cyndadol yn yr Eglwys
  • Caernarfon - enciliodd Siasbar Tudur ar ȏl colli brwydr Twthill yn 1461
  • Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn – cysylltir yr eglwys at Ednyfed Fychan, un o gyndeidiau Harri
  • Ysbyty Ifan – delw yn ȏl y son o Rhys ap Maredudd, gŵr cydnerth ar faes Bosworth
  • Neuadd Bodrhyddan, Rhuddlan – cartref teuluol negesydd a aeth a gwybodaeth a phres at Harri alltud
  • Salusbury Arms, Tremeirchion - urddwyd T. Salusbury yn farchog gan Harri am ei gymorth yn 1497
  • Treffynnon – rhodd gan fam Harri oedd yr adeiladau wrth ffynnon Gwenfrewi, yn ȏl y son
  • Yr Wyddgrug - Arianwyd yr eglwys gan fam Harri. Ynddi fe welwch arfbais Stanley, a fu ar faes Bosworth
  • Llaneurgain - mae herodraeth yn yr eglwys yn adlewyrchu nawdd gan deuluoedd Stanley a Beaufort
  • Wrecsam – mam Harri a arianodd twr enfawr yr eglwys, mae'n debyg
  • Rhiwabon - delw John ap Elis Eyton, a gafodd tiroedd lleol yn wobr am ei wasanaeth ar faes Bosworth
  • Holt - roedd y castell yn eiddio i Syr William Stanley nes y cafodd ei ddienyddio gan Harri yn 1495
  • Llandrillo-yn-Edeyrn - daliodd aelod o deulu Llwyd, Hendwr, Gastell Harlech i'r Lancastriaid o 1460 i 1468
  • Tŷ Gwyn, Y Bermo - yn ȏl y son, fe'r adeiladwyd fel tŷ diogel i Siasbar Tudur i ddod i Gymru a gadael

De Orllewin Cymru

South-east Wales

  • Cadeirlan Llandaf – Siasbar Tudur a arianodd y twr
  • Casnewydd - maen debyg mai Siasbar Tudur, Arglwydd Casnewydd, a arionodd dwr y gadeirlan
  • Eglwys Brynbuga - portshys gan yr Arglwydd Herbert (mae'n debyg), gwarchodwr Harri yn Rhaglan