Cofeb damwain hofrennydd, Llanberis

Link to commissioned work information pages

Cofeb damwain hofrennydd, Llanberis

Mae'r ddau blac ger glan Llyn Padarn yn coffáu tri chadét yn eu harddegau a laddwyd pan blymiodd hofrennydd i'r llyn ym 1993.

Aeth pedwar cadét o Gorff Hyfforddi'r Awyrlu yn Nwyrain Swydd Caerhirfryn ar yr hofrennydd Westland Wessex yn RAF Y Fali, Ynys Môn, ar 12 Awst 1993 i ymarfer hedfan. Methodd y rotor pan oedd yr hofrennydd ger Llyn Padarn, a syrthiodd i'r llyn. Llwyddodd tri aelod y criw ac un o'r cadetiaid i'w rhyddhau eu hunain a buont fyw.

Y cadetiaid a fu farw oedd: Amanda Elizabeth Louise Whitehead, 17 oed, o Jesmond Avenue, Bury; Mark Frazer Oakden, 16, o Gisburn Drive, Bury; a Christopher Alan Bailey, 15, o Berne Avenue, Horwich.

Digwyddodd y ddamwain yn ystod gwyliau'r haf, a gwelodd llawer o bobl yr hofrennydd yn troelli wrth iddo ddisgyn.

Map

LON LAS PERIS Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button